- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, Croes Bennawd: Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—
(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a
(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),
mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.
(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 21 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] (gan gynnwys [F1Deddf gan Senedd Cymru] nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—
(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I4A. 22 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
(3)Ond—
(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 23 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I6A. 23 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)[F1Deddf gan Senedd Cymru] yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y [F3diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a
(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [F4neu adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2)] (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).
[F5(2A)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 25A (cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu).]
(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—
“cyfraith ddomestig” (“domestic law”);
“deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);
“penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);
“rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F3Geiriau yn a. 24(1)(a) wedi eu hamnewid (31.1.2020) gan European Union (Withdrawal Agreement) Act 2020 (c. 1), a. 42(7), Atod. 5 para. 59(a) (ynghyd ag a. 38(3)); O.S. 2020/75, rhl. 4(n)(xxviii)
F4Geiriau yn a. 24(1)(b) wedi eu mewnosod (30.4.2020) gan The Direct Payments to Farmers (Legislative Continuity) Act 2020 (Consequential Amendments) Regulations 2020 (O.S. 2020/463), rhlau. 1(1), 4(b)
F5A. 24(2A) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 24 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I8A. 24 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf F6... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F7offeryn] ei wneud).
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F6Gair yn a. 25(1)(b) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(c)
F7Gair yn a. 25(1)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 25 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I10A. 25 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a
(b)pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).
(2)Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).
(3)Yn yr adran hon—
mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.]
Diwygiadau Testunol
F8A. 25A wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(3)(b)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a
(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf F10... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F11offeryn] ei wneud.
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Gweler hefyd [F12baragraff 2A o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)] F13....
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F9Geiriau yn a. 26 pennawd wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(4)(b)(i)
F10Gair yn a. 26(1)(b) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(d)
F11Gair yn a. 26(1)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(d)
F12Geiriau yn a. 26(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(4)(b)(ii)
F13Geiriau yn a. 26(3) wedi eu hepgor (31.1.2020) yn rhinwedd European Union (Withdrawal Agreement) Act 2020 (c. 1), a. 42(7), Atod. 5 para. 60(a) (ynghyd ag a. 38(3)); O.S. 2020/75, rhl. 4(n)(xxviii)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 26 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I12A. 26 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: