- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, RHAN 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.
(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch y Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 1 mewn grym ar 15.12.2022 gan O.S. 2022/1318, ergl. 2(a)
Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ar gyfer pobl Cymru—
(a)sy’n darparu cyfleoedd i bobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol drwy gydol eu bywydau o 16 oed;
(b)sy’n cynnwys amrywiaeth o lefelau astudio a mathau o gymhwyster;
(c)sy’n cynnwys amrywiaeth o leoliadau addysgol a dulliau astudio;
(d)sydd wedi ei threfnu’n gydlynol i hwyluso symudiad dysgwyr drwy gamau gwahanol addysg drydyddol ac i gyflogaeth neu fusnes;
(e)sydd fel arall yn bodloni gofynion gwahanol y rheini a all ddymuno ymgymryd ag addysg drydyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I4A. 2 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(a)
I5A. 2 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu—
(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol Gymreig;
(b)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru;
(c)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol Gymreig;
(d)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol Gymreig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;
(e)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol Gymreig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.
(2)Yn yr adran hon, “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” yw—
(a)mewn perthynas ag addysg drydyddol, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol Gymreig o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol, a
(b)mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I7A. 3 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(b)
I8A. 3 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
Rhaid i’r Comisiwn—
(a)annog unigolion sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i gymryd rhan mewn addysg drydyddol, a
(b)annog cyflogwyr yng Nghymru i gymryd rhan yn narpariaeth addysg drydyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I10A. 4 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(c)
I11A. 4 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig.
(2)Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill)—
(a)i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel;
(b)i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus;
(c)i bwysigrwydd barn dysgwyr ynghylch ansawdd yr addysg drydyddol a gânt.
(3)Yn yr adran hon, “aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol” yw—
(a)athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
(b)personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
(c)personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I13A. 5 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(d)
I14A. 5 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu—
(a)gwneud gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru;
(b)gwelliant parhaus yn ansawdd gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau perthnasol, a chystadleurwydd y gwaith ymchwil ac arloesi hwnnw o’i gymharu â gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau eraill;
(c)cydlafurio ar waith ymchwil ac arloesi, yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y byd rhwng—
(i)personau perthnasol;
(ii)personau perthnasol ac eraill;
(d)gwneud gwaith ymchwil ac arloesi a gweithgareddau sy’n ymwneud â gwaith ymchwil ac arloesi gan bersonau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg.
(2)Yn is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—
(a)darparwr a bennir mewn rheoliadau o dan adran 105(4);
(b)corff sy’n cydlafurio o fewn yr ystyr a roddir gan adran 105(4) wrth wneud gwaith ymchwil ac arloesi y mae cydsyniad a roddir gan y Comisiwn o dan adran 105(5) mewn effaith mewn cysylltiad ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I16A. 6(1)(a) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(e)
Rhaid i’r Comisiwn hybu—
(a)cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, ysgolion yng Nghymru a chyflogwyr;
(b)cydlynu yn narpariaeth addysg drydyddol gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru a chysoni’r ddarpariaeth honno â blaenoriaethau ymchwil ac arloesi.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I18A. 7 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(f)
I19A. 7 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ac ymchwil mewn ffordd sy’n cyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru.
(2)Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ofynion rhesymol diwydiant, masnach, cyllid, y proffesiynau, cyflogwyr eraill a gweithwyr.
(3)At ddiben is-adran (1), mae economi gynaliadwy yn economi lle y mae anghenion y presennol wedi eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I21A. 8 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(g)
I22A. 8 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn—
(a)annog y galw am addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi;
(b)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg i ateb y galw;
(c)annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg—
(i)gan ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru, a
(ii)gan bersonau eraill sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “cyngor perthnasol” yw cyngor a roddir at ddiben cynorthwyo’r Comisiwn i gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1).
(4)Ni chaniateir i berson gael ei ddynodi o dan is-adran (2) ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y person yn addas i roi cyngor ar y canlynol—
(a)hybu, cynnal, datblygu a chynllunio addysg drydyddol a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg,
(b)hybu caffael a gwella sgiliau Cymraeg,
(c)cynnal, datblygu, cynllunio a darparu gweithgareddau i gefnogi caffael a gwella sgiliau Cymraeg, a
(d)cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru mewn perthynas â’r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(5)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes unrhyw berson sy’n addas i roi cyngor ar y materion a grybwyllir yn is-adran (4), neu
(b)os nad oes unrhyw berson sy’n cydsynio i gael ei ddynodi.
(6)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir iddo gan berson sydd wedi ei ddynodi o dan is-adran (2).
(7)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dynodiad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).
(8)Caniateir i ddynodiad o dan is-adran (2) gael ei ddileu.
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I24A. 9(1) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(h)
I25A. 9(1) mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
I26A. 9(2)-(5) (7)(8) mewn grym ar 15.12.2022 gan O.S. 2022/1318, ergl. 2(b)
I27A. 9(6) mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu cyflawni cenhadaeth ddinesig gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg bellach a’r sector addysg uwch.
(2)Caiff y Comisiwn arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon i hybu cyflawni cenhadaeth ddinesig gan bersonau eraill (ac eithrio’r darparwyr addysg drydyddol a grybwyllir yn is-adran (1)) sydd wedi eu cyllido gan y Comisiwn o dan y Ddeddf hon.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “cenhadaeth ddinesig” yw gweithredu at ddiben hybu neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys gweithredu sydd wedi ei anelu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)).
(4)Yn is-adran (3) ac yn adran 11, mae “llesiant Cymru” yn cynnwys llesiant—
(a)Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni;
(b)pob un o’r personau sy’n preswylio neu’n bresennol yng Nghymru neu unrhyw un neu ragor o’r personau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I28A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I29A. 10 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(i)
I30A. 10 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
Rhaid i’r Comisiwn hybu—
(a)cyfleoedd mewn addysg drydyddol i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru i astudio neu addysgu mewn mannau eraill yn y byd;
(b)cyfleoedd i astudio neu addysgu mewn addysg drydyddol yng Nghymru ar gyfer personau sy’n preswylio fel arfer y tu allan i Gymru;
(c)cyfleoedd i’r buddiannau a geir yn sgil astudio ac addysgu o’r math a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) gael eu defnyddio ar gyfer llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru;
(d)cydlafurio mewn addysg drydyddol rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru a’r rheini mewn mannau eraill yn y byd;
(e)cyfleoedd i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i wneud gwaith ymchwil ac arloesi mewn mannau eraill yn y byd.
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I32A. 11 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(j)
I33A. 11 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru ac undebau llafur perthnasol.
(2)Mae undeb llafur yn undeb llafur perthnasol at ddiben yr adran hon os yw’r Comisiwn yn ystyried bod cydlafurio rhyngddo a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn debygol o gynorthwyo i gyflawni dyletswyddau’r Comisiwn o dan adrannau 2 i 11, ac—
(a)y caiff ei gynrychioli gan y corff o’r enw Wales TUC Cymru, neu
(b)os na chaiff ei gynrychioli felly, fod y Comisiwn yn ystyried ei fod yn cynrychioli aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 5(3)) yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I34A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I35A. 12 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(k)
I36A. 12 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi, ac mewn cysylltiad â hwy.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, ddiwygio’r datganiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) (gan gynnwys drwy ei ddisodli’n gyfan gwbl).
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau y maent yn eu gwneud i’r datganiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I38A. 13 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn lunio cynllun strategol sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—
(a)cyflawni ei ddyletswyddau strategol o dan adrannau 2 i 12, a
(b)ymdrin â’r blaenoriaethau yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan adran 13.
(2)Wrth lunio’r cynllun, rhaid i’r Comisiwnymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I40A. 14 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(b)
(1)Rhaid i’r Comisiwn anfon cynllun strategol a lunnir o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad o dan adran 13(1).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cymeradwyo’r cynllun, neu
(b)cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru geisio cytundeb y Comisiwn i bob addasiad y maent yn bwriadu ei wneud i gynllun cyn iddynt ei addasu o dan is-adran (2)(b).
(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun sy’n cynnwys addasiad nad yw’r Comisiwn yn cytuno iddo—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru roi rhesymau dros yr addasiad hwnnw i’r Comisiwn, a
(b)rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru pan fydd yn cyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy.
(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy.
(6)Caiff y Comisiwn gyhoeddi ei ddatganiad ynghylch amcanion llesiant o dan adran 7 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) drwy ei gynnwys yn ei gynllun strategol cymeradwy.
(7)Rhaid i’r Comisiwn gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol cymeradwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I41A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I42A. 15 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/919, ergl. 6(1) (ynghyd ag ergl. 6(2))
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio eu datganiad o dan adran 13(2) ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy o dan adran 15(5), rhaid i’r Comisiwn adolygu ei gynllun strategol.
(2)Caiff y Comisiwn adolygu ei gynllun strategol ar unrhyw adeg arall.
(3)Caiff y Comisiwn ddiwygio ei gynllun strategol ar ôl adolygiad o dan is-adran (1) neu (2) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(4)Os yw’r Comisiwn yn diwygio ei gynllun strategol, mae adran 14 yn gymwys mewn perthynas â diwygio’r cynllun fel y mae’n gymwys mewn perthynas â llunio cynllun.
(5)Rhaid i’r Comisiwn anfon ei gynllun strategol diwygiedig at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—
(a)pan fo’r diwygio o ganlyniad i adolygiad o dan is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r diwygiadau i’w datganiad, neu
(b)pan fo’r diwygio o ganlyniad i adolygiad o dan is-adran (2), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 15 yn gymwys i gynllun a ddiwygir o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i gynllun a lunnir o dan adran 14.
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I44A. 16 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/919, ergl. 4(b)
(1)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Comisiwn roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n —
(a)darparu addysg uwch (i’r graddau y mae’r rhyddid yn ymwneud ag addysg uwch neu ymchwil ac arloesi), a
(b)staff academaidd y darparwyr hynny.
(2)Yn yr adran hon, ystyr “rhyddid academaidd” yw—
(a)mewn perthynas â darparwyr addysg drydyddol, eu rhyddid i benderfynu—
(i)cynnwys cyrsiau addysg uwch pendool a’r modd y cânt eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,
(ii)y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, a
(iii)y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol;
(b)mewn perthynas â staff academaidd, eu rhyddid o fewn y gyfraith—
(i)i gwestiynu a phrofi doethineb cyffredin, a
(ii)i gyflwyno syniadau newydd a lleisio barn ddadleuol neu amhoblogaidd,
heb eu rhoi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau a all fod ganddynt yn y darparwyr addysg drydyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I45A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I46A. 17 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(c)
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Comisiwn roi sylw i bwysigrwydd diogelu’r rhyddid o fewn y gyfraith i ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i reoli o ddydd i dydd mewn ffordd effeithiol a medrus.
Gwybodaeth Cychwyn
I47A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I48A. 18 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(d)
(1)Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon sy’n rhoi pŵer i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—
(a)ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y darparwr yn elusen, neu
(b)â dogfennau llywodraethu’r darparwr.
(2)At ddibenion is-adran (1), dogfennau llywodraethu darparwr addysg drydyddol yw—
(a)yn achos darparwr a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol—
(i)Siarter y darparwr, a
(ii)unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y darparwr, y mae’n ofynnol i’r Cyfrin Gyngor gymeradwyo ei wneud neu ei ddiwygio;
(b)yn achos darparwr sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch (o fewn yr ystyr a roddir i “higher education corporation” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)), offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r gorfforaeth;
(c)yn achos darparwr sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach (o fewn yr ystyr a roddir i “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992), offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r gorfforaeth;
(d)yn achos darparwr sy’n sefydliad a ddynodir o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r darparwr;
(e)yn achos darparwr sy’n ysgol, offeryn llywodraethu’r ysgol (os oes un);
(f)yn achos darparwr sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu’r cwmni.
Gwybodaeth Cychwyn
I49A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I50A. 19 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(e)
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I52A. 20 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(f)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cyffredinol i’r Comisiwn ynghylch arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.
(2)Caniateir i gyfarwyddydau o dan yr adran hon gael eu llunio drwy gyfeirio at gwrs astudio penodol, ond ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn arfer swyddogaeth mewn ffordd sy’n gwahardd neu’n ei gwneud yn ofynnol darparu cwrs astudio penodol.
(3)Ni chaniateir i’r cyfarwyddydau gael eu llunio drwy gyfeirio—
(a)at ddarparwr cofrestredig penodol,
(b)at berson penodol ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan Ran 3,
(c)at rannau penodol o gyrsiau astudio,
(d)at raglenni ymchwil penodol neu brosiectau arloesi penodol,
(e)at gynnwys cyrsiau astudio, rhaglenni ymchwil neu brosiectau arloesi,
(f)at y modd y caiff y cyrsiau hynny, y rhaglenni hynny neu’r prosiectau hynny eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,
(g)at y meini prawf ar gyfer dethol, penodi neu ddiswyddo staff academaidd, neu sut y maent yn cael eu cymhwyso, neu
(h)at y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu sut y maent yn cael eu cymhwyso.
(4)Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn atal cyfarwyddydau o dan yr adran hon rhag cael eu llunio drwy gyfeirio at ddarparu ac asesu cyrsiau astudio neu rannau o gyrsiau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
(5)Caniateir i gyfarwyddydau o dan yr adran hon gael eu llunio drwy gyfeirio at faes ymchwil neu arloesi ond dim ond os yw’r maes hwnnw wedi ei bennu yng nghynllun strategol y Comisiwn a gymeradwyir o dan adran 15.
(6)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddynt—
(a)cyhoeddi’r cyfarwyddyd,
(b)adrodd i Senedd Cymru fod cyfarwyddyd wedi ei roi a gosod copi o’r cyfarwyddyd gerbron y Senedd, ac
(c)cadw’r cyfarwyddyd o dan adolygiad.
(8)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I53A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I54A. 21 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(g)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau atodol i’r Comisiwn.
(2)Mae “swyddogaeth atodol” yn swyddogaeth—
(a)sy’n arferadwy at ddibenion swyddogaeth i Weinidogion Cymru, a
(b)sy’n ymwneud—
(i)â darparu, neu’r bwriad i ddarparu, addysg drydyddol, neu
(ii)â gwneud, neu’r bwriad i wneud, gwaith ymchwil ac arloesi.
(3)Mae is-adrannau (4) a (5) yn gymwys—
(a)pan fo tir neu eiddo arall yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal, neu pan oedd yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal, at ddibenion darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch neu’r sector addysg bellach, a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru â’r hawlogaeth i gael unrhyw hawl neu fuddiant mewn cysylltiad â’r eiddo, neu pan fyddent â hawlogaeth o’r fath pe bai digwyddiad yn digwydd.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod pob un neu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r eiddo yn arferadwy ar eu rhan gan y Comisiwn.
(5)Rhaid i’r Comisiwn arfer y swyddogaethau hynny yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I55A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I56A. 22 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(h)
Rhagolygol
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn peidio â bodoli.
Gwybodaeth Cychwyn
I57A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff ac eiddo, hawliau ac atebolrwyddau o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Gweinidogion Cymru i’r Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I58A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I59A. 24 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(i)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: