xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

2022 dsc 2

Deddf gan Senedd Cymru i roi pŵer i Weinidogion Cymru i addasu Deddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny at ddibenion penodedig; ac i wneud darpariaeth at ddibenion cysylltiedig.

[8 Medi 2022]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

1Pŵer i addasu Deddfau Trethi Cymru etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny os ydynt yn ystyried bod yr addasiadau’n angenrheidiol neu’n briodol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—

(a)sicrhau na osodir treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol;

(b)amddiffyn rhag osgoi trethi mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir;

(c)ymateb i newid i dreth ragflaenol sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

(d)ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny.

(2)Ond gweler adran 2(4), (5) a (6) (cyfyngiadau ar y pŵer).

(3)Yn y Ddeddf hon, ystyr “Deddfau Trethi Cymru” yw—

(a)Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);

(b)Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1);

(c)Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3).

(4)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

2Rheoliadau o dan adran 1: atodolLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 1 (ymhlith pethau eraill)—

(a)gosod treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir;

(b)gosod neu estyn atebolrwydd i gos‍b.

(2)Caiff rheoliadau o dan adran 1 hefyd (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth sy’n cael effaith ôl-weithredol, cyn belled ag—

(a)nad yw’r ddarpariaeth yn gosod neu’n estyn atebolrwydd i gosb yn ôl-weithredol;

(b)pan fo’r ddarpariaeth yn creu unrhyw atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi, neu i swm uwch o’r naill neu’r llall o’r trethi hynny, yn ôl-weithredol—

(i)y bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud datganiad llafar i Senedd Cymru, neu wedi gosod datganiad ysgrifenedig ger ei bron, yn nodi eu bwriad i wneud darpariaeth o’r fath, a

(ii)nad yw’r ddarpariaeth yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn i’r datganiad gael ei wneud neu ei osod;

(c)pan fo’r ddarpariaeth yn tynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth (o fewn ystyr adran‍ 96 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3)), neu’n lleihau hawlogaeth o’r fath, yn ôl-weithredol—

(i)y bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud datganiad llafar i Senedd Cymru, neu wedi gosod datganiad ysgrifenedig ger ei bron, yn nodi eu bwriad i wneud darpariaeth o’r fath, a

(ii)nad yw’r ddarpariaeth yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn i’r datganiad gael ei wneud neu ei osod.

(3)Caiff rheoliadau o dan adran 1 hefyd (ymhlith pethau eraill)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu—

(a)Rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno (darpariaethau ynghylch Awdurdod Cyllid Cymru);

(b)rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1) (rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth ar gyfer treth trafodiadau tir)—

(i)adran 24(1);

(ii)paragraff 27(4) o Atodlen 6;

(iii)paragraff 28(1) o’r Atodlen honno;

(c)rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3) (rheoliadau sy’n pennu cyfraddau treth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi)—

(i)adran 14(3);

(ii)adran 14(6);

(iii)adran 46(4).

(5)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.

(6)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 newid unrhyw weithdrefn gan Senedd Cymru sy’n ymwneud â gwneud offeryn statudol o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Deddfau hynny.

(7)Nid yw’r pŵer a roddir gan adran 1 yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddfau Trethi Cymru, ac nid yw unrhyw bŵer arall sydd ganddynt o dan Ddeddfau Trethi Cymru yn effeithio ar y pŵer a roddir gan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

3Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy’n cael effaith ôl-weithredolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o’u polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan adran 1 i wneud rheoliadau sy’n cael effaith ôl-weithredol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad, ac os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

4Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1LL+C

(1)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 oni bai—

(a)bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu

(b)bod Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y rheoliadau heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod a’i gymeradwyo yn y modd hwnnw.

(3)Mae is-adrannau (4) i (8) yn gymwys i offeryn a wneir heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru.

(5)Os na chymeradwyir yr offeryn drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn ystod y cyfnod o 60 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, mae’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(6)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo’r offeryn cyn diwrnod olaf y cyfnod hwnnw, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais.

(7)Ni chaniateir gwneud cynnig yn Senedd Cymru ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo’r offeryn yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn.

(8)Wrth gyfrifo’r‍ cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (5), (6) a (7), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

5Rheoliadau’n peidio â chael effaith: atodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo rheoliadau’n peidio â chael effaith o ganlyniad i adran‍ 4(5) neu (6).

(2)Mae unrhyw atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi, neu i swm uwch o’r naill neu’r llall o’r trethi hynny, na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.

(3)Mae unrhyw dynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth (o fewn ystyr adran 96 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3)), neu leihau hawlogaeth o’r fath, na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi digwydd.

(4)Mae unrhyw atebolrwydd i gosb o dan unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny, neu i swm uwch o gosb o’r fath—

(a)a gododd cyn i’r rheoliadau beidio â chael effaith, ond

(b)na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau,

i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.

(5)Nid yw’r ffaith bod y rheoliadau wedi peidio â chael effaith yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan y rheoliadau neu drwy ddibynnu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

6Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf honLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a

(b)cyhoeddi casgliadau’r adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym.

(2)Rhaid i adolygiad o dan yr adran hon gynnwys asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny.

(3)Wrth gynnal adolygiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Senedd Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

7Y pŵer o dan adran 1 yn dod i benLL+C

(1)Daw’r pŵer o dan adran 1 i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym, ac eithrio i’r graddau y darperir fel arall o dan yr adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—

(a)nad yw’r pŵer o dan adran 1 i ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1), ond

(b)bod y pŵer o dan adran 1 i barhau mewn grym am gyfnod pellach,‍ sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2031, a bennir yn y rheoliadau.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)yn arferadwy unwaith yn unig, a

(b)yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)O ran drafft o’r offeryn—

(a)ni chaniateir ei osod gerbron Senedd Cymru cyn i gasgliadau’r adolygiad o dan adran 6 gael eu cyhoeddi, a

(b)ni chaniateir ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1).

(6)Nid yw’r ffaith bod y pŵer o dan adran 1 wedi dod i ben yn effeithio ar barhad mewn grym unrhyw reoliadau a wnaed o dan y pŵer hwnnw cyn iddo ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

8DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

9Dod i rymLL+C

Daw’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9

10Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9