Search Legislation

Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Gorfodi

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, Croes Bennawd: Gorfodi. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

GorfodiLL+C

7Camau gorfodi gan awdurdod lleolLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol—

(a)ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 yr honnir eu bod wedi eu cyflawni yn ei ardal;

(b)dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 a gyflawnwyd yn ei ardal;

(c)cymryd unrhyw gamau eraill gyda’r nod o leihau mynychder troseddau o dan adran 5 yn ei ardal.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gyfeiriadau at unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 7 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(e)

8Pŵer i wneud pryniannau prawfLL+C

Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol wneud y pryniannau hynny a’r trefniadau hynny, a sicrhau y darperir y gwasanaethau hynny, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I4A. 8 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(f)

9Pŵer mynediadLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre ar unrhyw adeg resymol—

(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre‍ breswyl.

(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.

(4)Cyn mynd i fangre o dan yr adran hon rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ddogfennol o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 7(2).

(5)At ddibenion yr adran hon ac adrannau 10 ac 11, ystyr “mangre breswyl” yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I6A. 9 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(g)

10Pŵer mynediad: mangreoedd preswylLL+C

(1)Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant yn awdurdodi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i fynd i fangre‍ breswyl, drwy rym os oes angen, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r drosedd honno wedi ei chyflawni.

(2)Mae’r warant yn parhau i fod mewn grym hyd ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I8A. 10 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(h)

11Pŵer mynediad: amgylchiadau eraill pan fo gwarant yn angenrheidiolLL+C

(1)Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i fynd i fangre, ac eithrio mangre‍ breswyl, drwy rym os oes angen, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol,

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r drosedd honno wedi ei chyflawni, ac

(c)bod gofyniad a nodir yn is-adran (2) neu (3) wedi ei fodloni.

(2)Y gofyniad yw—

(a)bod gofyn am fynd i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a

(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd, neu i berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.

(3)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.

(4)Mae’r warant yn parhau mewn grym hyd ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I10A. 11 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(i)

12Pwerau mynediad: atodolLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Mae’r pwerau mynediad sy’n arferadwy o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

(3)Os yw meddiannydd mangre yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu gwarant o dan adran 10 neu 11 a mynd i’r fangre, rhaid i’r swyddog—

(a)hysbysu’r meddiannydd ynghylch enw’r swyddog;

(b)cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i’r meddiannydd o awdurdodiad y swyddog;

(c)cyflenwi copi o’r warant i’r meddiannydd.

(4)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi gan warant o dan adran 10 neu 11 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I12A. 12 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(j)

13Pŵer arolyguLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni—

(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;

(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;

(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth am faterion sydd o fewn rheolaeth y person, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â hwy.

(2)Os yw swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b) neu unrhyw beth y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c) gael ei ddadansoddi.

(3)Os yw swyddog awdurdodedig awdurdod lleol, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre ddatganiad—

(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a

(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.

(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—

(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).

(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a

(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.

(6)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu yn Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.

(7)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I14A. 13 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(k)

14Y drosedd o rwystro etc. swyddogionLL+C

(1)Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 9 i 13 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 13(1)(b) neu (d) neu 13(4)(b) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Pan na fo person yn ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu yn Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath (gweler adran 13(6)), nid yw hyn yn gyfystyr â rhwystro o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I16A. 14 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(l)

15Eiddo a gedwir: apelauLL+C

(1)Caiff person (“A”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 13(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau, naill ai i A neu i berson arall.

(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a oes trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.

(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p. 30) (pŵer i wneud Gorchymyn mewn cysylltiad ag eiddo sydd ym meddiant yr heddlu).

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I18A. 15 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(m)

16Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C

(1)Caiff person (“A”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 13(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—

(a)bod A wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, a

(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg A.

(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol dalu digollediad i A.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I20A. 16 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(n)

17Sancsiynau sifilLL+C

(1)Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2008” yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth, mewn perthynas â’r drosedd o dan adran 5, y gellid ei gwneud o dan Ran 3 o Ddeddf 2008 (sancsiynau sifil)—

(a)os oedd awdurdod lleol yn rheoleiddiwr at ddibenion Rhan 3 o’r Ddeddf honno, a

(b)os oedd y drosedd yn drosedd berthnasol mewn perthynas â swyddog gorfodi at ddibenion Rhan 3 o’r Ddeddf honno.

(3)Mae adrannau 63 i 70 o Ddeddf 2008 (canllawiau; arfer pwerau; talu i’r Gronfa Gyfunol) yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

(4)Mae adran 60(1) a (2) o Ddeddf 2008 (ymgynghori) yn gymwys i reoliadau o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i orchymyn o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

(5)At ddibenion is-adran (3) a (4), mae cyfeiriadau at reoleiddiwr yn adrannau 60 a 63 i 70 o Ddeddf 2008 i’w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 17 mewn grym ar 7.6.2023, gweler a. 22(1)

18Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraillLL+C

(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig.

(4)Mae Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y mae yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(5)Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I23A. 18 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(o)

19Atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—

(a)corff corfforedig;

(b)partneriaeth;

(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)un o uwch-swyddogion y corff corfforedig neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),

mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I25A. 19 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(p)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources