Search Legislation

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Newidiadau dros amser i: RHAN 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, RHAN 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 2LL+CCYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 1LL+CPŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH

8Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.

(2)Caiff y cymorth hwnnw, yn benodol, gynnwys cymorth ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn, neu mewn cysylltiad â hwy—

(a)annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy;

(b)helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau;

(c)gwella gwytnwch busnesau amaethyddol;

(d)cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd;

(e)lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;

(f)atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl;

(g)cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;

(h)cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol;

(i)gwella ansawdd yr aer;

(j)gwella ansawdd dŵr;

(k)cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy;

(l)lliniaru risgiau o lifogydd a sychder;

(m)cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid;

(n)sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl;

(o)annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir).

(3)Caniateir i gymorth o dan yr adran hon gael ei ddarparu o dan gynllun neu fel arall.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) drwy—

(a)ychwanegu diben at y rhestr yn yr is-adran honno;

(b)dileu diben o’r rhestr;

(c)newid disgrifiad o ddiben ar y rhestr.

(5)Yn yr adran hon, mae i “nwy tŷ gwydr” yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3).

(6)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at gymorth (ac eithrio yn achos cyfeiriadau at ddarparu cymorth o dan gynllun trydydd parti o fewn adran 9(8)) yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon;

(b)mae cyfeiriadau at gymorth ariannol yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon sy’n cael ei ddarparu’n ariannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

9Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8 LL+C

(1)Caniateir darparu cymorth yn ariannol neu fel arall.

(2)Caniateir darparu cymorth ariannol drwy grant, benthyciad neu warant, neu ar unrhyw ffurf arall.

(3)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i fodloni meini prawf o ran cymhwysedd.

(4)Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r defnydd o dir, caniateir i’r meini prawf cymhwysedd (ymysg pethau eraill) bennu gofynion yn ymwneud ag—

(a)hectarau neu nodweddion y tir;

(b)i ba raddau y mae rhaid i’r tir gael ei ddefnyddio ar gyfer neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth neu weithgareddau ategol;

(c)y person y darperir cymorth iddo (er enghraifft drwy gyfeirio at ddefnydd neu ddefnydd fwriadedig y person o’r tir).

(5)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caniateir i’r amodau (ymysg pethau eraill) gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol gael ei ad-dalu neu ar gyfer gwneud iawn amdano fel arall (gyda llog neu beidio).

(7)Caniateir darparu cymorth i wneuthurwr neu weithredwr cynllun trydydd parti mewn cysylltiad â sefydlu neu weithredu’r cynllun hwnnw (gan gynnwys mewn cysylltiad â darparu cymorth o dan y cynllun hwnnw).

(8)

(9)Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo i unrhyw berson arall swyddogaethau sy’n ymwneud â darparu cymorth.

(10)Caiff swyddogaethau a ddirprwyir o dan is-adran (9) gynnwys—

(a)rhoi canllawiau;

(b)arfer disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 9 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

10Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am gymorth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, chyhoeddi gwybodaeth benodedig am gymorth sy’n cael ei ddarparu neu sydd wedi ei ddarparu.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod gofyniad ar unrhyw berson (gan gynnwys ar Weinidogion Cymru).

(3)Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn cynnwys gwybodaeth am—

(a)derbynnydd unrhyw gymorth a ddarperir;

(b)swm unrhyw gymorth a ddarperir;

(c)dibenion unrhyw gymorth a ddarperir.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 10 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

11Cynlluniau cymorth amlflwydd LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun, a elwir yn “cynllun cymorth amlflwydd”, sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch y defnydd y disgwylir ei wneud o’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 8 yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn gymwys iddo.

(2)Rhaid i gynllun cymorth amlflwydd—

(a)pennu’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef;

(b)nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu darparu cymorth yn ystod y cyfnod er mwyn cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy (yn unol ag adran 2);

(c)pan fwriedir darparu cymorth yn ystod y cyfnod o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3), disgrifio pob cynllun—

(i)sy’n weithredol, neu

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl y bydd yn dod yn weithredol yn ystod y cyfnod;

(d)disgrifio unrhyw gymorth y bwriedir iddo gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ac eithrio o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).

(3)Y cyfnod y bydd y cynllun cyntaf yn gymwys mewn perthynas ag ef yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â 1 Ionawr 2025.

(4)Ni chaiff y cyfnod y bydd cynlluniau dilynol yn gymwys mewn perthynas ag ef fod yn fyrrach na phum mlynedd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cynllun yn dod i ben heb i gynllun newydd fod yn ei le.

(6)Rhaid i gynllun sy’n cael ei lunio o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a’i gyhoeddi, gan Weinidogion Cymru—

(a)yn achos y cynllun cyntaf, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef, a

(b)yn achos pob cynllun dilynol, o leiaf 12 mis cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef.

(7)Os yw, cyn diwedd y cyfnod y mae cynllun yn gymwys mewn perthynas ag ef, unrhyw wybodaeth a nodir neu a ddisgrifir yn y cynllun yn unol â pharagraffau (b), (c) neu (d) o is-adran (2) yn peidio â bod yn gywir neu’n gyflawn, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cynllun cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cynllun, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r cynllun diwygiedig, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 11 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

12Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gwirio cymhwysedd ar gyfer cymorth, etc. LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â—

(a)gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth wedi eu bodloni;

(b)y canlyniadau, pan fo cymorth wedi ei ddarparu heb i feini prawf cymhwysedd fod wedi eu bodloni;

(c)gorfodi cydymffurfedd ag unrhyw amodau y darperir neu y darparwyd cymorth yn ddarostyngedig iddynt;

(d)monitro i ba raddau y mae pwrpas y cymorth wedi ei gyflawni;

(e)ymchwilio i droseddau a amheuir mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth neu ddarparu cymorth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch darparu gwybodaeth;

(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;

(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;

(d)ynghylch y broses o bennu a yw meini prawf cymhwysedd neu amodau wedi eu bodloni mewn cysylltiad â darparu’r cymorth;

(e)ynghylch cadw cofnodion;

(f)ynghylch adennill neu wneud iawn am yr holl gymorth ariannol neu unrhyw ran ohono (gyda llog neu hebddo);

(g)ynghylch dal cymorth yn ôl, yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(h)ynghylch camau i’w cymryd, gan berson y darperir neu y darparwyd cymorth iddo, er mwyn unioni unrhyw amod a dorrwyd sy’n gymwys i’r cymorth hwnnw;

(i)ynghylch cosbau ariannol (gan gynnwys cosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at swm unrhyw gymorth ariannol);

(j)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(k)sy’n gwahardd person rhag cael cymorth, neu gymorth o ddisgrifiad a bennir, am gyfnod a bennir neu hyd nes i amodau a bennir gael eu bodloni;

(l)ynghylch apelau;

(m)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn) i berson.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2)(i) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer talu llog ar unrhyw swm y gellir ei adennill o ba ddiwrnod bynnag (pa un ai y diwrnod y darparwyd y cymorth o dan sylw, neu ddiwrnod arall) y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau, neu a bennir o dan y rheoliadau.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “a bennir” yw wedi ei bennu mewn, neu wedi ei benderfynu o dan, reoliadau o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 12 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

13Adroddiad blynyddol ynghylch cymorth a ddarparwyd o dan adran 8 LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad blynyddol”), mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ynghylch y cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod.

(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)cyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd;

(b)pan fo cymorth wedi ei ddarparu yn ystod y cyfnod drwy gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3)—

(i)cyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd o dan y cynllun yn ystod y cyfnod;

(ii)disgrifiad o unrhyw gymorth arall a ddarparwyd o dan y cynllun yn ystod y cyfnod;

(c)disgrifiad o unrhyw gymorth ac eithrio cymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond nid o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).

(3)Caiff yr adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad blynyddol sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(5)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr adroddiad blynyddol cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym, ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2025;

(b)yn achos adroddiadau blynyddol dilynol, blynyddoedd ariannol olynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 13 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

14Adroddiad Effaith LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon (“Adroddiad Effaith”) mewn perthynas â phob cyfnod adrodd.

(2)Rhaid i’r Adroddiad Effaith nodi’r dibenion y darparwyd cymorth ar eu cyfer yn ystod y cyfnod adrodd.

(3)Rhaid i’r Adroddiad Effaith hefyd nodi asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cymorth hwnnw, gan gynnwys eu hasesiad o’r canlynol—

(a)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion a fwriadwyd, a

(b)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth darparu’r cymorth gyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

(4)Caiff yr Adroddiad Effaith hefyd asesu ac adrodd ar unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol at ddibenion asesu effaith ac effeithiolrwydd cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r Adroddiad Effaith sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr Adroddiad Effaith cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym, ac sy’n dod i ben â 31 Rhagfyr 2029;

(b)yn achos Adroddiadau Effaith dilynol, cyfnodau olynol o bum mlynedd.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (6) drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 14 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

15Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiad o dan adran 14 LL+C

Wrth lunio adroddiad o dan adran 14, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)y dibenion a bennir yn adran 8(2);

(b)pob adroddiad a gyhoeddir o dan adran 13 mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd y mae’r adroddiad o dan adran 14 yn ymwneud ag ef;

(c)yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 14;

(d)unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 15 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

PENNOD 2LL+CPWERAU I ADDASU DEDDFWRIAETH SY’N YMWNEUD Â CHYMORTH ARIANNOL A CHYMORTH ARALL

16Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr cynllun y taliad sylfaenol yw Cynllun y Taliad Sylfaenol o dan Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (“y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol”);

(b)ystyr “deddfwriaeth sy’n llywodraethu Cynllun y Taliad Sylfaenol” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(i)y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(ii)unrhyw Reoliad Dirprwyedig y Cyngor, neu Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, a wnaed o dan y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(iii)unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir arall sy’n ymwneud â gweithredu cynllun y taliad sylfaenol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 16 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)

17Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin;

(b)deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan y Rheoliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 17 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)

18Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)Erthyglau 55 i 57 o’r Rheoliad CMO;

(b)deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan y ddeddfwriaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 18 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)

19Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(b)Rheoliad (EU) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau trosiannol penodol ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(c)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(d)i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop etc.;

(e)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(f)Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2080/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 sy’n cychwyn cynllun cymorth y Gymuned ar gyfer mesurau coedwigaeth mewn amaethyddiaeth;

(g)Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2078/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy’n gydnaws â gofynion diogelu’r amgylchedd a chynnal cefn gwlad;

(h)deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ym mharagraffau (a) i (g).

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 19 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)

20Y berthynas â phwerau eraill i addasu deddfwriaeth LL+C

(a)deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol (gweler adran 16(2)(b));

(b)deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin (gweler adran 17(2));

(c)deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth (gweler adran 18(2));

(d)deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig (gweler adran 19(2)).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 20 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)

PENNOD 3LL+CYMYRRAETH MEWN MARCHNADOEDD AMAETHYDDOL

21Datganiad yn ymwneud ag amodau eithriadol yn y farchnad LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad, caiff Gweinidogion Cymru wneud a chyhoeddi datganiad (“datganiad amodau eithriadol yn y farchnad”) yn unol â’r adran hon.

(2)Mae “amodau eithriadol yn y farchnad”—

(a)os oes aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol neu fygythiad difrifol o aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol, a

(b)os yw’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael effaith andwyol sylweddol, neu’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol, ar gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru o ran y prisiau y gellir eu cael am un neu ragor o gynhyrchion amaethyddol.

(3)Rhaid i ddatganiad amodau eithriadol yn y farchnad—

(a)datgan bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad;

(b)disgrifio’r amodau eithriadol yn y farchnad o dan sylw drwy bennu—

(i)yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch mewn marchnadoedd amaethyddol;

(ii)y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch yn ddwys, neu bod bygythiad difrifol o aflonyddwch dwys;

(iii)unrhyw gynnyrch amaethyddol y mae’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn effeithio arno neu’n debygol o effeithio arno;

(iv)y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol sylweddol ar gynhyrchwyr amaethyddol o ran y prisiau y gellir eu cael am y cynnyrch amaethyddol o dan sylw;

(c)pennu tan pa ddyddiad y mae’r pwerau a roddir gan adran 22 neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio mewn perthynas â’r amodau eithriadol yn y farchnad.

(4)Ni chaniateir i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3)(c) fod yn hwyrach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad.

(5)Mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith o ddechrau’r diwrnod y caiff ei gyhoeddi tan ddiwedd y diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad, o dan yr is-adran hon, sy’n nodi bod y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi ei ddirymu o’r dyddiad a bennir yn y datganiad.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o saith niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn datganiad amodau eithriadol yn y farchnad sy’n cael effaith o dan yr adran hon, yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad yn dal i fodoli.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru estyn y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad o dan yr is-adran hon sy’n pennu—

(a)y caiff y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad ei estyn am gyfnod (nad yw’n fwy na thri mis) a bennir yn y datganiad, a

(b)bod y pwerau a roddir gan adran 22(2) neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio yn ystod y cyfnod hwnnw.

(9)Nid yw’r ffaith bod datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi dod i ben neu wedi ei ddirymu yn atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud a chyhoeddi datganiad amodau eithriadol yn y farchnad arall yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol â’r un amodau eithriadol yn y farchnad.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw ddatganiad a wneir ac a gyhoeddir o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gyhoeddi.

(11)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ddatganiad yn cael ei gyhoeddi yn gyfeiriadau at ei gyhoeddi’n electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I15A. 21 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(a)

22Amodau eithriadol yn y farchnad: y pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys yn ystod y cyfnod y mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu gytuno i ddarparu, cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru y mae’r amodau eithriadol yn y farchnad a ddisgrifir yn y datganiad wedi cael, yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol ar eu hincwm.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar unrhyw bwerau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru (gan gynnwys o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir) i ddarparu cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol.

(4)Caniateir darparu cymorth ariannol o dan is-adran (2) drwy grant, benthyciad neu warant neu ar unrhyw ffurf arall.

(5)Caniateir darparu’r cymorth ariannol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caniateir i’r amodau (ymysg pethau eraill) gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol gael ei ad-dalu neu ar gyfer gwneud iawn amdano fel arall (gyda llog neu beidio).

(7)Nid oes dim yn is-adran (1) na (2) yn atal Gweinidogion Cymru rhag darparu, neu gytuno i ddarparu, cymorth ariannol o dan is-adran (2) ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith ynddo, ond mewn ymateb i gais a wneir yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I17A. 22 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(a)

23Pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat, i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Mae’r pŵer a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i newid y cynhyrchion amaethyddol sy’n gymwys am ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat.

(3)Yn yr adran hon, mae “deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat” yn cynnwys—

(a)Erthyglau 8 i 18 o’r Rheoliad CMO;

(b)Rheoliad y Cyngor (EU) Rhif 1370/2013 dyddiedig 16 Rhagfyr 2013 sy’n pennu mesurau ar bennu cymorthyddion ac ad-daliadau penodol sy’n ymwneud â chyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (i’r graddau y maent yn ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat);

(c)Rheoliadau canlynol y Comisiwn (i’r graddau y maent yn ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat)—

(i)Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/1238 dyddiedig 18 Mai 2016 sy’n ategu’r Rheoliad CMO o ran ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat;

(ii)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1240 dyddiedig 18 Mai 2016 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso’r Rheoliad CMO o ran ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat;

(iii)Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2017/1182 dyddiedig 20 Ebrill 2017 sy’n ategu’r Rheoliad CMO mewn perthynas â graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthiad carcasau buchol, moch a defaid ac mewn perthynas ag adrodd ar brisiau’r farchnad o ran categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw.

(4)Hyd nes y bydd unai paragraff 1 neu baragraff 2 o Atodlen 3 (diwygio Erthyglau 219, 220, 221 a 222 o’r Rheoliad CMO) mewn grym, mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at amodau eithriadol yn y farchnad sy’n destun datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cynnwys cyfeiriad at amgylchiadau sy’n destun mesurau o dan unrhyw un neu ragor o’r Erthyglau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I19A. 23 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(a)

Rhagolygol

PENNOD 4LL+CTENANTIAETHAU AMAETHYDDOL

24Daliadau Amaethyddol: datrys anghydfod sy’n ymwneud â chymorth ariannol LL+C

(1)Mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 19A (anghydfodau sy’n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad y landlord neu amrywio telerau), yn is-adran (7), yn y diffiniad o “relevant financial assistance”—

(a)ym mharagraff (b) yn lle “, or paragraph 8 of Schedule 5 to, that Act (powers of Secretary of State and Welsh Ministers” rhodder “that Act (powers of Secretary of State”;

(b)hepgorer yr “or” ar ôl paragraff (b);

(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

“(a)

section 8 of the Agriculture (Wales) Act 2023 (“the 2023 Act”) (Welsh Ministers’ power to provide support),

(b)

a scheme of the sort mentioned in section 9(8) of the 2023 Act (meaning of “third party scheme” for purposes of power to provide support),

(c)

the basic payment scheme, as defined in section 16 of the 2023 Act (power to modify legislation governing the basic payment scheme),

(d)

legislation relating to the financing, management and monitoring of the common agricultural policy, as defined in section 17 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to the common agricultural policy),

(e)

legislation relating to support for apiculture, as define in section 18 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to support for apiculture),

(f)

legislation relating to support for rural development, as defined in section 19 of the 2023 Act (support for rural development), or

(g)

section 22 of the 2023 Act (powers of Welsh Ministers to give financial assistance in exceptional market conditions);.

(3)Mae Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(4)Ar ôl adran 8 mewnosoder—

8AReference of certain requests for consent or variation to arbitration: Wales

(1)This section applies to a farm business tenancy where the land comprised in the tenancy is in Wales.

(2)A tenant may, by notice in writing given to the landlord, refer to arbitration under this Act a request made by the tenant to the landlord where—

(a)the request falls within subsection (3), and

(b)no agreement has been reached with the landlord on the request.

(3)A request falls within this subsection if—

(a)it is a request for—

(i)the landlord’s consent to a matter which under the terms of the tenancy requires such consent, or

(ii)a variation of the terms of the tenancy, and

(b)it is made for the purposes of—

(i)enabling the tenant to request or apply for relevant financial support, or

(ii)complying with a statutory duty applicable to the tenant.

(4)Subsection (5) applies where the tenant has given notice under subsection (2) but an arbitrator has not been appointed by agreement before the end of the period of two months beginning with the day on which the notice was given.

(5)The tenant or the landlord may apply to a professional authority for the appointment of an arbitrator by that authority, but once either party has made such an application the other may no longer do so.

(6)An arbitrator, on a reference made under subsection (2), may—

(a)determine that the landlord must comply with the request (either in full or in part),

(b)determine that the landlord may refuse to comply with the request, or

(c)make any other award or determination permitted by regulations.

(7)The Welsh Ministers may by regulations make provision—

(a)about conditions to be met before a reference may be made under subsection (2);

(b)about the awards or determinations that may be made by an arbitrator, which may include making an order for a variation in the rent payable under the tenancy or for the payment of compensation or costs;

(c)about the time at which, or the conditions subject to which, an award or determination may be expressed to take effect;

(d)restricting a tenant’s ability to make subsequent references to arbitration where a reference to arbitration has already been made under subsection (2) in relation to the same tenancy.

(8)In this section—

  • relevant financial support” means financial support under—

    (a)

    section 8 of the Agriculture (Wales) Act 2023 (“the 2023 Act”) (Welsh Ministers’ power to provide support),

    (b)

    a scheme of the sort mentioned in section 9(7) of the 2023 Act (meaning of “third party scheme” for purposes of power to provide support),

    (c)

    the basic payment scheme, as defined in section 16 of the 2023 Act (power to modify legislation governing the basic payment scheme),

    (d)

    legislation relating to the financing, management and monitoring of the common agricultural policy, as defined in section 17 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to the common agricultural policy),

    (e)

    legislation relating to support for apiculture, as defined in section 18 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to support for apiculture),

    (f)

    legislation relating to support for rural development, as defined in section 19 of the 2023 Act (support for rural development), or

    (g)

    section 22 of the 2023 Act (powers of Welsh Ministers to give financial assistance in exceptional market conditions);

  • statutory duty” means a duty imposed by or under—

    (a)

    an Act of Parliament;

    (b)

    an Act of Senedd Cymru or an Assembly Measure;

    (c)

    retained direct EU legislation.

(5)Yn adran 28(5), cyn paragraff (a), mewnosoder—

(za)a request made under section 8A(2) of this Act,.

(6)Ar ôl adran 36, mewnosoder—

36ARegulations

(1)A power to make regulations under this Act is exercisable by statutory instrument.

(2)The Welsh Ministers’ power to make regulations under section 8A(7) includes power to make different provision for different purposes.

(3)A statutory instrument containing regulations made under section 8A(7) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources