Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae 9 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 21 Rhagfyr 2020 (ac eithrio Rhan 6 sy’n dod i rym ar 23 Rhagfyr 2020) ac yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021. Mae hefyd yn darparu bod rhaid adolygu’r Rheoliadau yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn parhau i fod yn gymesur.

Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar bobl yn ymgynnull, ar bobl yn teithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Mae Rhan 2 yn rhoi 4 lefel wahanol o gyfyngiadau yn eu lle a all fod yn gymwys gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’r lefel sy’n gymwys yn seiliedig ar yr hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yw’r ymateb priodol a chymesur i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

Mae Atodlen 1 yn nodi’r lefel isaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1; mae Atodlen 2 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2; mae Atodlen 3 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 ac mae Atodlen 4 yn nodi’r lefel uchaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 (lle y mae cyfyngiadau caeth ar bobl yn ymgynnull ac yn teithio, a lle y mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o fangreoedd gau). Mae Atodlen 5 yn nodi pa lefel rhybudd sy’n gymwys i ardal. Ar adeg gwneud y Rheoliadau mae’r un lefel rhybudd yn gymwys ledled Cymru, ond gellid diwygio’r Rheoliadau i gymhwyso lefelau rhybudd gwahanol ar sail ranbarthol neu leol (yn ogystal â diwygio lefel y rhybudd ar gyfer Cymru gyfan).

Mae nifer o’r cyfyngiadau yn cyfeirio at y cysyniad o “aelwyd estynedig”. Mae hyn yn galluogi mwy nag un aelwyd i gytuno i ddod at ei gilydd at ddibenion y rheolau drwy ffurfio aelwyd estynedig fwy. Yn ogystal, mae darpariaethau ar wahân sy’n caniatáu i aelwyd un oedolyn (person sy’n byw ar ei ben ei hun neu gyda phlentyn neu oedolyn y mae’n gofalu amdano yn unig) gytuno i ddod at ei gilydd gydag aelwyd arall at y dibenion hyn. Mae’r trefniadau hyn yn gyfyngedig i’r aelwydydd hynny yn unig a rhaid i’r holl oedolion ar bob aelwyd sy’n ffurfio aelwyd estynedig gytuno iddynt.

Ceir crynodeb o’r cyfyngiadau sy’n gymwys ar bob lefel rhybudd isod. Mae’r holl gyfyngiadau yn ddarostyngedig i eithriadau a restrir yn y Rheoliadau.

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1 yn gymwys i ardal:

  • dim ond rhwng hyd at 6 o bobl, neu fwy os yw pawb sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’n aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 3 aelwyd ac aelwyd un oedolyn, y caniateir cynulliadau o dan do yng nghartrefi pobl;

  • mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl) wedi eu cyfyngu i 6 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu i aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae cynulliadau yn yr awyr agored (gan gynnwys yng ngerddi pobl) wedi eu cyfyngu i 30 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu i aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 50 o bobl o dan do a hyd at 100 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;

  • fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 50 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 100 o bobl yn yr awyr agored;

  • mae’n bosibl y caniateir digwyddiadau ar raddfa fwy hefyd, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru;

  • caniateir teithio o fewn ardal Lefel 1 ac i unrhyw ardal Lefel 1 arall neu unrhyw ardaloedd Lefel 2 ac ohonynt, ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 1 i unrhyw ardal o Gymru sydd ar Lefel 3 neu 4 nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;

  • yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 1;

  • caiff bron pob mangre busnes sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol wneud hynny ar ôl 10.00 p.m. a rhaid iddynt gau yn ddim hwyrach na 10.20 p.m.

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 yn gymwys i ardal:

  • dim ond rhwng aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 2 aelwyd ac aelwyd un oedolyn, y caniateir cynulliadau o dan do yng nghartrefi pobl;

  • mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl) wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae cynulliadau yn yr awyr agored (gan gynnwys yng ngerddi pobl) wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 15 o bobl o dan do a hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;

  • fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 15 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 30 o bobl yn yr awyr agored;

  • mae’n bosibl y caniateir digwyddiadau ar raddfa fwy hefyd, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru;

  • caniateir teithio o fewn ardal Lefel 2 ac i unrhyw ardal Lefel 2 arall neu unrhyw ardaloedd Lefel 1 ac ohonynt, ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 2 i unrhyw ardal o Gymru sydd ar Lefel 3 neu 4, nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;

  • yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 2;

  • caiff bron pob mangre sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol ond gwneud hynny gyda phryd o fwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol ar ôl 10.00 p.m. (a rhaid cau yn ddim hwyrach na 10.20 p.m.).

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 yn gymwys i ardal:

  • dim ond rhwng aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 2 aelwyd ac aelwyd un oedolyn y caniateir cynulliadau yng nghartrefi pobl (o dan do ac yn yr awyr agored);

  • mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl), neu yn yr awyr agored mewn mangreoedd rheoleiddiedig, wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae cynulliadau yn yr awyr agored (i ffwrdd o gartrefi pobl) neu mewn mangreoedd rheoleiddiedig wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;

  • mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 15 o bobl o dan do a hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;

  • fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 15 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 30 o bobl yn yr awyr agored;

  • caniateir teithio o fewn ardal Lefel 3 ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 i unrhyw ardal arall o Gymru, nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;

  • yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 1, 2 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 3;

  • caiff y rhan fwyaf o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond rhaid i fangreoedd a ddefnyddir ar gyfer adloniant neu letygarwch naill ai fod ar gau neu cânt agor tan 6.00 p.m. yn unig – ac ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol werthu alcohol i’w yfed yn y fangre.

Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 yn gymwys i ardal:

  • mae gofyniad cyffredinol i aros gartref os ydych yn byw yn yr ardal a pheidio â theithio i’r ardal os ydych yn byw y tu allan iddi;

  • mae’n ofynnol cau’r rhan fwyaf o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Mae’r gallu i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, ac i fangreoedd fod ar agor i’r cyhoedd, yn ddarostyngedig i’r angen i gymryd “pob mesur rhesymol” i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu (gweler Rhan 5).

Mae cysylltiad agos rhwng y cyfyngiadau ar ddigwyddiadau a’r cyfyngiadau ar gynulliadau gan y gallai pobl sy’n mynychu digwyddiad hefyd fod yn ymgynnull gydag eraill. Caiff digwyddiad ei ddiffinio yn eang (yn rheoliad 57(4)) fel unrhyw achlysur sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol lle y mae pobl yn yr un man at y diben hwnnw (pa un a ydynt hefyd yn ymgynnull ai peidio).

Fel eithriad i’r system hon, mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth benodol sy’n addasu’r cyfyngiadau sy’n ymwneud ag aelwydydd estynedig (a theithio i gwrdd ag aelodau o aelwyd estynedig) am y cyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 (gyda diwrnod ychwanegol yn cael ei ganiatáu cyn ac ar ôl y cyfnod hwn yn achos personau sy’n teithio o Ogledd Iwerddon ac i Ogledd Iwerddon).

Mae Rhannau 3 i 6 yn gosod cyfyngiadau a gofynion pellach sy’n gymwys yn gyffredinol o dan bob amgylchiad.

Mae Rhan 3 yn gosod gofynion ar bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws a’u cysylltiadau agos. Mae rheoliadau 6 a 7 yn darparu na chaiff oedolion na phlant sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae rheoliadau 8 a 9 yn darparu na chaiff pobl sydd wedi cael “cysylltiad agos” â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae’r cyfnod ynysu o 10 niwrnod yn dechrau naill ai’r diwrnod ar ôl i berson gael canlyniad positif, y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae person yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y profodd y symptomau gyntaf neu’r diwrnod ar ôl i berson gael cysylltiad agos. Mae rheoliad 11 yn darparu eithriad i’r gofyniad i ynysu os yw pobl yn profi’n negyddol yn rheolaidd yn unol â chynllun profi ffurfiol. Mae rheoliad 12 yn ymwneud â rhwymedigaethau oedolion mewn cysylltiad â phlant y mae’n ofynnol iddynt ynysu, mae rheoliad 13 yn galluogi i hysbysiadau a roddir o dan y Rhan hon gan swyddogion olrhain cysylltiadau gael eu tynnu’n ôl ac mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a ddelir gan swyddogion olrhain cysylltiadau.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd ac mewn gweithleoedd. Mae rheoliad 16 yn gymwys i “mangreoedd rheoleiddiedig” ac mae’n ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i bob mesur rhesymol arall gael ei gymryd, er enghraifft i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu sy’n gweithio mewn mangre ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall peidio â chynnal gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini sydd yn y fangre fod yn fesurau rhesymol.

Mae Rhan 5 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo rhaid i ysgolion fod ar agor pan fyddant ar gau fel arall i ganiatáu i blant gweithwyr hanfodol neu blant sy’n agored i niwed fynychu.

Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 8 a 9) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd camau ataliol o dan reoliad 16, mae rheoliad 27 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 28 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliadau 29 i 32 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofynion mewn perthynas â theithio, ynysu, digwyddiadau a gwisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 33 yn ymwneud â chymhwyso’r gofynion i blant. Mae rheoliad 34 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre, mae rheoliad 35 yn ymwneud â phwerau’r heddlu i gynnal archwiliadau ffyrdd ac mae rheoliad 36 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch arfer pwerau drwy bwerau gorfodi.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliadau 37 i 43 ym Mhennod 1 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r cyfyngiadau neu’r gofynion y cyfeirir atynt yn cyflawni trosedd. Mae trosedd i’w chosbi drwy ddirwy ddiderfyn (rheoliad 44). Mae Pennod 2 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y cânt eu cymhwyso ac mae Pennod 3 yn ymwneud ag achosion am droseddau o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 9 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 57), yn dirymu Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiad canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources