Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

PENNOD 2Cosbau penodedig

Hysbysiadau cosb benodedig

47.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)awdurdod lleol, neu

(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

a bennir yn yr hysbysiad.

(3Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).

(4Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan—

(a)rheoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(b)rheoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(c)rheoliad 31 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(d)rheoliad 37 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(5Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.

(6Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

Swm cosb benodedig: cyffredinol

48.—(1Oni bai bod rheoliad 49, 50, 51 neu 52 yn gymwys, swm cosb benodedig yw—

(a)£60, neu

(b)os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hybysiad, £30.

(2Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig o’r fath iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;

(b)hysbysiad cosb benodedig o dan—

(i)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(ii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 21(7A) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

(iii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 31(8) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

(iv)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 39, 40, 41 neu 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

(v)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(1).

Swm cosb benodedig: cymryd rhan mewn cynulliad mawr mewn annedd breifat

49.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(2), swm y gosb benodedig yw £60.

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad

50.—(1Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(1), swm y gosb benodedig yw £500.

(2Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)swm y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,000;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £4,000.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;

(b)hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 40 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad cerddoriaeth sydd heb ei drwyddedu

51.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(2), swm y gosb benodedig yw £10,000.

Swm cosb benodedig: troseddau sy’n gysylltiedig â busnes

52.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 42(1), (2), (3) neu (4) (“trosedd busnes honedig”).

(2Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.

(3Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

(a)nid yw paragraff (2) yn gymwys, a

(b)swm y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.

(4Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

(a)hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig;

(b)hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.

Cosbau penodedig: ffurf a gweithdrefn

53.—(1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd rheoliad 47(6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig a bennir o dan reoliad 48, 49, 50, 51 neu 52 (yn ôl y digwydd);

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(2Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (1)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) at y person y nodir ei enw o dan baragraff (1)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(3Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(4Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 47(2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a

(b)sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.

Hysbysiadau cosb benodedig: gwahardd cosbi ddwywaith

54.—(1Pan fo’r un weithred neu anweithred, neu fwy neu lai yr un weithred neu anweithred, gan berson yn gallu arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni mwy nag un drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ni chaniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i’r person ond mewn cysylltiad ag un o’r troseddau honedig.

(2Ond caniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(1) yn ogystal â throsedd honedig o dan reoliad 37(2) pan fo’r un weithred, neu fwy neu lai yr un weithred, gan berson yn arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni’r naill drosedd a’r llall.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources