- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod—
(a)ni chaiff agor ei fangre i gwsmeriaid cyn 6.00 a.m. bob dydd;
(b)rhaid iddo gau’r fangre i gwsmeriaid am neu cyn 6.00 p.m. bob dydd.
(2) Ni chaiff y person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod neu unrhyw fusnes neu wasanaeth arall y mae ei fangre wedi ei awdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol—
(a)gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed yn ei fangre;
(b)caniatáu i alcohol gael ei yfed yn y fangre.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4) Pan—
(a)bo person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod (“busnes A”) yn ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad o dan y paragraff hwn, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad neu’r cyfyngiad os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’r cyfyngiad.
9.—(1) Nid yw paragraff 8(1) yn gymwys i—
(a)mangre mewn—
(i)porthladd môr;
(ii)maes awyr;
(iii)sefydliad addysgol;
(iv)ysbyty neu gartref gofal;
(b)ffreuturau yn y gweithle, pan na fo dewis ymarferol arall i bobl yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m.;
(c)mangre a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref.
(2) Nid yw paragraff 8(1) yn atal mangre rhag cael ei defnyddio i werthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre.
(3) Os—
(a)yw dathliad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu briodas arall yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre y mae paragraff 8 yn gymwys iddi, a
(b)archebwyd y dathliad fwy nag wythnos cyn y dechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys ddiweddaraf i’r ardal y mae’r fangre wedi ei lleoli ynddi,
caiff y fangre, er gwaethaf paragraff 8(1)(b), aros ar agor tan 10.00 p.m. at ddibenion cynnal y dathliad.
(4) Mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo mangre busnes bwyd a diod (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre llety gwyliau neu lety teithio.
(5) Nid yw paragraff 8(1)—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;
(b)yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr—
(i)fel rhan o wasanaeth ystafell, neu
(ii)rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.
(6) Nid yw paragraff 8(1) na (2)—
(a)yn atal preswylwyr rhag bwyta bwyd neu yfed diod (gan gynnwys alcohol) ar unrhyw adeg yn eu hystafell breifat;
(b)yn atal gwerthu alcohol i breswylwyr fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 10).
10.—(1) Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i alcohol gael ei werthu na’i gyflenwi yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: