ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 2 (SAFONAU)

13Mesur Addysg (Cymru) 2011

1

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer adran 16 (ffedereiddio ysgolion sy’n peri pryder drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru).

3

Yn adran 18(1) (ffederasiynau: darpariaethau atodol)—

a

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir), neu

b

ym mharagraff (b) yn lle “o’r Ddeddf honno” rhodder “o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998”.