xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CTRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Amrywiol ac atodolLL+C

34Datganiadau neu wybodaeth anwir neu gamarweiniolLL+C

(1)Mae person—

(a)sy’n gwneud datganiad neu osodiad arall o dan y Rhan hon sy’n anwir neu’n gamarweiniol gan wybod neu gredu ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)sy’n rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol o dan y Rhan hon gan wybod neu gredu ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 34 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

35Canllawiau gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I4A. 35 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

36Pwerau i godi taliadau: atodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn bwriadu codi tâl o dan adran 6 neu 13.

(2)Cyn codi’r ffi, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chyhoeddi polisi ar ffioedd.

(3)Wrth bennu ffi at ddibenion adran 6 neu 13 mae’r awdurdod lleol—

(a)yn gorfod gweithredu yn unol â’i bolisi ar ffioedd,

(b)yn cael pennu ffioedd gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, ac

(c)yn cael penderfynu nad oes angen talu ffi mewn achosion penodol neu ddisgrifiadau penodol o achos.

(4)Wrth bennu ffi at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hyn, ni chaiff yr awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt wrth arfer—

(a)ei swyddogaethau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 15 i 25, neu

(b)unrhyw swyddogaethau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon o ran safle nad yw’n safle rheoleiddiedig.

(5)Caiff yr awdurdod lleol ddiwygio’i bolisi ar ffioedd ac, os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r polisi fel y’i diwygiwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I6A. 36 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

37Cofrestrau trwyddedau safleLL+C

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a ddyroddwyd ar gyfer tir a leolir yn ardal yr awdurdod lleol.

(2)Mae’r gofrestr i fod yn agored i’r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol.

(3)Os yw awdurdod lleol o dan adran 27 yn cofnodi amrywiad ar unrhyw un o amodau y drwydded safle, rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi’r ffaith honno yn y gofrestr trwyddedau safle.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I8A. 37 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

38Tir y GoronLL+C

Mae’r Rhan hon yn gymwys i dir nad y Goron yw ei berchennog hyd yn oed os oes buddiant yn y tir yn perthyn i’w Mawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu i Ddugaeth Cernyw, neu yn perthyn i adran o’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar ran Ei Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I10A. 38 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

39DehongliLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Pan fo tir nad yw’n fwy na chyfanswm o 400 o fetrau sgwâr o ran ei arwynebedd yn cael ei osod o dan denantiaeth a wnaed gyda golwg ar ddefnyddio’r tir fel safle rheoleiddiedig, at ddibenion y Rhan hon ystyr “perchennog”, o ran y tir, yw’r person y byddai ganddo hawl i feddiant ar y tir heblaw am hawliau unrhyw berson o dan y denantiaeth honno.

(3)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at wneud gwaith yn cynnwys cyfeiriad at blannu coed a llwyni a gwneud gwaith arall i gadw neu i wella amwynder tir.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at ganiatâd cynllunio i’w gymryd fel cyfeiriad at ganiatâd cynllunio p’un a yw wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd ai peidio neu’n ddarostyngedig i unrhyw amod neu gyfyngiad, ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Ddeddf hon at ganiatâd cynllunio yn cynnwys cyfeiriad at ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi ei roi neu a roddwyd ar ddynodi parth menter o dan Atodlen 32 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I12A. 39 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)