37Cofrestrau trwyddedau safleLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a ddyroddwyd ar gyfer tir a leolir yn ardal yr awdurdod lleol.
(2)Mae’r gofrestr i fod yn agored i’r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol.
(3)Os yw awdurdod lleol o dan adran 27 yn cofnodi amrywiad ar unrhyw un o amodau y drwydded safle, rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi’r ffaith honno yn y gofrestr trwyddedau safle.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 37 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)