xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CSWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

CodauLL+C

145Y pŵer i ddyroddi codauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi, a diwygio o bryd i’w gilydd, un neu fwy o godau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (“cod”).

(2)Caiff cod osod gofynion, a chaiff gynnwys canllawiau sy’n disgrifio nodau, amcanion a materion eraill.

(3)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol—

(a)gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod (yn ddarostyngedig i adran 147), a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.

(4)Caiff cod bennu nad yw adran 147 yn gymwys i ofyniad sydd wedi ei gynnwys yn y cod.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi ar eu gwefan bob cod sydd am y tro mewn grym, a

(b)trefnu bod y codau sydd wedi eu disodli neu eu dirymu (p’un a ydynt ar eu gwefan neu fel arall) ar gael i’r cyhoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 145 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

146Dyroddi, cymeradwyo a dirymu codauLL+C

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 145, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig).

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(5)O ran y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ni fydd yn cynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god (neu god diwygiedig) rhag cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Caniateir i Weinidogion Cymru ddirymu cod (neu god diwygiedig) a ddyroddir o dan yr adran hon mewn cod pellach neu drwy gyfarwyddyd.

(8)Rhaid gosod cyfarwyddyd o dan is-adran (7) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 146 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

147Gwyro oddi wrth ofynion mewn codauLL+C

(1)Pan fo’r adran hon yn gymwys i ofyniad mewn cod (gweler adran 145(4)), caiff awdurdod lleol arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn ffordd nad yw’n cydymffurfio â’r gofyniad i’r graddau—

(a)y mae’r awdurdod yn credu bod rheswm da iddo beidio â chydymffurfio â’r gofyniad mewn categorïau penodol o achosion neu i beidio â gwneud hynny o gwbl,

(b)y mae’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y gofyniad, ac

(c)y mae datganiad polisi a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 148 yn weithredol.

(2)Pan fo paragraffau (a) i (c) yn is-adran (1) yn gymwys—

(a)rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr sydd wedi ei nodi yn y datganiad polisi, a

(b)nid yw’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r gofyniad yn y cod ond i’r graddau nad yw pwnc y gofyniad wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi.

(3)Nid yw’r ddyletswydd i gydymffurfio â gofyniad mewn cod ymarfer neu i ddilyn y llwybr a bennir mewn datganiad polisi yn gymwys i awdurdod lleol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y cod neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori [F1penodol] o achos.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 147 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

148Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategolLL+C

(1)Rhaid i ddatganiadau polisi a ddyroddir o dan adran 147(1) nodi—

(a)sut mae’r awdurdod lleol yn cynnig y dylai swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gael eu harfer mewn ffordd sy’n wahanol i’r gofyniad yn y cod perthnasol, a

(b)rhesymau’r awdurdod neu’r corff dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw.

(2)Caiff awdurdod sydd wedi dyroddi datganiad polisi—

(a)dyroddi datganiad polisi diwygiedig;

(b)rhoi hysbysiad yn dirymu datganiad polisi.

(3)Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig) ddatgan—

(a)ei fod wedi ei ddyroddi o dan adran 147(1), a

(b)y dyddiad y bydd yn cael effaith.

(4)Rhaid i awdurdod sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig), neu sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—

(a)trefnu bod y datganiad neu hysbysiad yn cael ei gyhoeddi;

(b)anfon copi o’r datganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 148 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

149Cyfarwyddiadau i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chodau ymarferLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn barnu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddwyd gan awdurdod lleol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu yn rhannol) yn debygol o arwain at arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â safon ddigonol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer swyddogaethau yn unol â’r gofyniad perthnasol yn y cod perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10A. 149 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)