xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3YMCHWILIO I GWYNION YNGHYLCH GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL A DREFNIR NEU A ARIENNIR YN BREIFAT

RHAN 2MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL SY’N YMWNEUD Â’R OMBWDSMON

Deddf Llywodraeth Leol 1974

5Mae Deddf Llywodraeth Leol 1974 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

6Yn adran 29 (ymchwiliadau: darpariaethau pellach), yn is-adran (5), yn lle “26” rhodder “34X”.

7Yn adran 33 (ymgynghori rhwng y Comisiynydd Lleol, y Comisiynydd Seneddol a Chomisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd a Chomisiynwyr ac Ombwdsmyn eraill), yn is-adran (5), yn lle “26” rhodder “34X”.

8Yn adran 34G (ymchwiliadau: darpariaethau pellach), yn is-adran (2), yn lle “26” rhodder “34X”.

9Yn adran 34M (ymgynghori â Chomisiynwyr eraill), yn is-adran (7), ym mharagraff (d), yn lle “26” rhodder “34X”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000

10Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

11Mae adran 67 (ymgynghori ag ombwdsmyn) yn cael effaith, hyd nes y bydd diddymiad yr adran honno gan Ran 5 o Atodlen 25 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 wedi ei ddwyn i rym yn llawn, gyda’r diwygiadau canlynol—

(a)yn is-adran (2A), ar ôl “Part 2” mewnosoder “or 2A”, a

(b)yn is-adran (4), yn lle “26” rhodder “34X”.

12Yn adran 70 (ymchwiliadau: darpariaethau pellach), yn is-adran (2), ym mharagraff (b), yn lle “, 25 to 27 and 32” rhodder “and Part 2B”.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

13Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

14Ym mhennawd Rhan 2 (ymchwilio i gwynion), ar ôl “COMPLAINTS” mewnosoder “RELATING TO LISTED AUTHORITIES”.

15Yn adran 2 (pŵer ymchwilio)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “complaint” (yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd) mewnosoder “under this Part”, a

(b)yn is-adran (4), ar ôl “complaint” (yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd) mewnosoder “under this Part”.

16Yn adran 4 (pwy sy’n cael cwyno), yn is-adran (1)—

(a)yn y geiriau cyn paragraff (a), ar ôl “Ombudsman” mewnosoder “under this Part”, a

(b)ym mharagraff (a), yn lle “Act” rhodder “Part”.

17Yn adran 7 (materion y caniateir ymchwilio iddynt), yn is-adran (1), ar ôl “investigate” mewnosoder “under this Part”.

18Yn adran 9 (eithrio: rhwymedïau eraill)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “matter” (yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd) mewnosoder “under this Part”, a

(b)yn is-adran (3), ar ôl “matter” (yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd) mewnosoder “under this Part”.

19Yn adran 10 (materion eraill a eithrir), yn is-adran (1), ar ôl “investigate” mewnosoder “under this Part”.

20Yn adran 14 (gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau), cyn is-adran (1) mewnosoder—

(A1)This section applies in relation to investigations conducted under this Part.

21Yn adran 23 (adroddiadau arbennig: materion atodol)—

(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (a), ar ôl “report” mewnosoder “made under section 22”, a

(b)yn is-adran (7), ar ôl “report” (yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd) mewnosoder “under section 22”.

22Hepgorer y croesbennawd italig cyn adran 25 (ymgynghori a chydweithredu).

23Hepgorer adrannau 25 i 25B (ymgynghori a chydweithredu).

24Hepgorer y croesbennawd italig cyn adran 26 (datgelu).

25Hepgorer adrannau 26 a 27 (datgelu gwybodaeth).

26Hepgorer adran 32 (amddiffyniad rhag honiadau o ddifenwi).

27Yn adran 41 (dehongli), yn is-adran (1)—

(a)yn y diffiniad o “investigation”, ar ôl “section 2” mewnosoder “or 34B”,

(b)yn y diffiniad o “the person aggrieved”—

(i)ar ôl “aggrieved” mewnosoder “in Part 2”, a

(ii)ar ôl “section 4(1)(a)” mewnosoder “and in Part 2A has the meaning given in section 34D(1)(a)”,

(c)yn y diffiniad o “special report”—

(i)ar ôl “report” mewnosoder “in Part 2”, a

(ii)ar ôl “section 22” mewnosoder “and in Part 2A has the meaning given in section 34P”, a

(d)mewnosoder, yn y mannau priodol—

28Ym mhennawd adran 42 (cyn-ddarparwyr gofal iechyd a chyn-landlordiaid cymdeithasol: addasiadau), yn lle “and social landlords” rhodder “social landlords, social care providers and palliative care providers”.

29(1)Mae adran 42 (cyn-ddarparwyr gofal iechyd a chyn-landlordiaid cymdeithasol: addasiadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)former care home providers in Wales;

(e)former domiciliary care providers in Wales;

(f)former independent palliative care providers in Wales.

(3)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)“Former care home provider in Wales” means a person who—

(a)at the relevant time, provided accommodation, nursing or personal care of a particular description at a care home (within the meaning given by the Care Standards Act 2000) in Wales, and

(b)subsequently ceased to do so (whether or not the person has later started to do so again).

(4B)“Former domiciliary care provider in Wales” means a person who—

(a)at the relevant time, provided domiciliary care services of a particular description in Wales, and

(b)subsequently ceased to do so (whether or not the person has later started to provide those services again).

(4C)“Former independent palliative care provider in Wales” means a person who—

(a)at the relevant time, provided a palliative care service of a particular description in Wales, and

(b)subsequently ceased to do so (whether or not the person has later started to do so again).

30(1)Mae Atodlen 1 (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: penodiad etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 5—

(a)yn is-baragraff (1), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)he is a care home provider, domiciliary care provider or independent palliative care provider;

(g)he is an officer or member of staff of a provider of that kind.;

(b)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A)For the purposes of sub-paragraph (1)(g) a person is an officer of a provider if he or she has control or management of a provider which is not an individual or the affairs of such a provider.

(3)Ym mharagraff 14, yn is-baragraff (7)(a), ar ôl “authority” mewnosoder “, care home provider, domiciliary care provider or independent palliative care provider”.

31Yn yr enw i Atodlen 2, ar ôl “MATTERS” mewnosoder “: PART 2”.

Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006

32Mae Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

33Yn adran 18 (pŵer i ddatgelu gwybodaeth), yn is-adran (1), ym mharagraff (b), yn lle “25A” rhodder “34V”.

34Yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), ym mharagraff 2, hepgorer is-baragraffau (2) a (3).

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

35Yn Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 77.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

36(1)Mae Atodlen 3 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer y croesbennawd italig cyn paragraff 4 (Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005).

(3)Hepgorer paragraffau 4 i 6.