RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH
Cydweithrediad
164Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol
1
Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—
a
yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu
b
fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
2
Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei angen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—
a
yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu
b
fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
3
Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.
4
Y personau yw—
a
partner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;
b
awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG nad yw’n bartner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;
c
tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cais.
5
Rhaid i awdurdod lleol a phob un o’r personau hynny a grybwyllwyd yn is-adran (4), wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru.
6
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (5).
7
At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.