RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Trefniadau lleolLL+C

18Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraillLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o’r bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac—

(a)sydd â nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg,

(b)sydd â nam ar eu clyw neu nam difrifol ar eu clyw, neu

(c)sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.

(2)Rhaid i’r gofrestr nodi, mewn cysylltiad â phob person sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr—

(a)y paragraff yn is-adran (1) y mae’r person hwnnw yn dod o’i fewn, a

(b)amgylchiadau ieithyddol y person.

(3)Caiff rheoliadau bennu, at ddibenion is-adran (1), gategorïau o bobl sydd i’w trin, neu nad ydynt i’w trin, fel pe baent yn dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c) o’r is-adran honno.

(4)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o blant y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(5)Caiff awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o oedolion y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n anabl,

(b)nad yw’n anabl ond y mae ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain, neu y mae’r awdurdod yn barnu y gall yn y dyfodol arwain, at anghenion am ofal a chymorth, neu

(c)sy’n dod o fewn unrhyw gategori arall o bersonau y mae’r awdurdod yn barnu ei bod yn briodol ei gynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae arnynt, neu y mae’r awdurdod yn ystyried y gall fod arnynt yn y dyfodol, anghenion am ofal a chymorth.

(7)O ran awdurdod lleol—

(a)caiff gategoreiddio pobl sydd wedi eu cynnwys mewn cofrestr o dan is-adran (4) neu (5) fel y gwêl yn dda, a

(b)rhaid iddo nodi amgylchiadau ieithyddol y bobl hynny yn y gofrestr berthnasol.

(8)Caniateir i’r cofrestrau a lunnir ac a gedwir o dan yr adran hon gael eu defnyddio wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod; er enghraifft, er mwyn—

(a)cynllunio’r modd y mae’r awdurdod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr, a

(b)monitro newidiadau dros amser yn nifer y bobl yn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a’r mathau o anghenion sydd ganddynt hwy neu eu gofalwyr.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon oni bai—

(a)bod y person wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn y gofrestr, neu

(b)bod cais i’w gynnwys felly wedi ei wneud ar ran y person.

(10)Pan fo awdurdod lleol yn cynnwys person mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys felly, a

(b)os gwneir cais gan y person neu ar ran y person, rhaid i’r awdurdod ddileu o’r gofrestr unrhyw ddata personol [F1(o fewn ystyr “ personal data ” yn Rhan 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno))] sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 18 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)