RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Amrywiol
187Personau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc
1
Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person—
a
yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu
b
ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd, yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
2
Ni chaiff rheoliadau o dan adran 50 neu 51 (taliadau uniongyrchol) ei gwneud yn ofynnol na chaniatáu i daliadau gael eu gwneud tuag at y gost o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth os yw’r person hwnnw, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—
a
yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu
b
yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
3
Ni chaniateir i’r pŵer o dan adran 57 (achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol) gael ei arfer yn achos person sydd—
a
yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu
b
yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,
ac eithrio at y diben o wneud darpariaeth mewn cysylltiad â llety i’r person wrth iddo gael ei ryddhau o’r carchar neu o’r llety cadw ieuenctid (gan gynnwys ei ryddhau dros dro), neu wrth i’r person beidio â phreswylio mwyach yn y fangre a gymeradwywyd.
4
Nid yw adran 58 (gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi) yn gymwys yn achos person—
a
sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu
b
sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.