RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

I2I1190Methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro

1

Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion a oedd, yn union cyn i’r F2darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu—

a

o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014;

b

o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn yr Alban wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 12 neu 13A o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 25 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003;

c

o dan drefniadau a wnaed gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14)) neu adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002;

d

drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed—

F3i

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1ia

by virtue of sections 31 to 33 of the Care Act 2014,

ii

o ganlyniad i’r dewis a wnaed gan yr oedolyn yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013, neu

iii

yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002.

2

Wrth ddisgwyl i Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014 gychwyn, mae is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

a

o dan drefniadau a wnaed neu drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarparwyd gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan—

i

Rhan 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948,

ii

adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968,

iii

adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,

iv

Atodlen 20 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, neu

v

adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000;

3

Wrth ddisgwyl i adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013 gychwyn, mae is-adran (1)(d)(ii) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

ii

o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu