xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

AtodolLL+C

[F142ACymhwyso i’r Goron: Rhan 1LL+C

Nid yw Rhan 1 o’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.]

43Gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaethLL+C

(1)Nid yw unrhyw rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau mewn amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd unrhyw ddarpariaeth mewn tenantiaeth ddomestig annedd y mae’r Rhan hon wedi ei thorri mewn perthynas â hi.

(2)Ond o ran taliadau cyfnodol—

(a)caniateir i rai sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hatal yn unol ag adran 30 (gorchmynion atal rhent), a

(b)caniateir i rai a delir mwn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hadfer yn unol ag adrannau 32 a 33 (gorchmynion ad-dalu rhent).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 43 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(v)

I3A. 43 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

44Cyfyngiad ar derfynu tenantiaethauLL+C

(1)Ni chaniateir rhoi [F2hysbysiad o fewn is-adran (1A)] mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig [F3sy’n gontract meddiannaeth safonol] os—

(a)nad yw’r landlord yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd, neu

(b)nad yw’r landlord yn drwyddedig o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi ac nad yw wedi penodi person sydd yn drwyddedig o dan y Rhan hon i ymgymryd â’r holl waith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd ar ran y landlord.

[F4(1A)Mae hysbysiad o fewn yr is-adran hon os yw’n hysbysiad—

(a)a roddir o dan adran 173(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (hysbysiad y landlord);

(b)a roddir o dan adran 186(1) o’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(c)fel y’i disgrifir yn adran 194(1) o’r Ddeddf honno (cymal terfynu’r landlord);

(d)a roddir o dan baragraff 25B o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord i derfynu contract safonol cyfnod penodol wedi ei drosi).]

(2)[F5Nid yw] is-adran (1) yn gymwys am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod pan fo buddiant y landlord yn yr annedd yn cael ei aseinio i’r landlord.

F6(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

45Landlordiaid sy’n ymddiriedolwyrLL+C

Os ymddiriedolwyr yw’r landlord, caniateir i’r landlord fod yn gofrestredig neu’n drwyddedig at ddibenion y Rhan hon o dan enw sy’n ddisgrifiad ar y cyd o’r ymddiriedolwyr fel ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I8A. 45 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(v)

46Rheoliadau ar ffioeddLL+C

(1)Caiff rheoliadau a wneir o dan y Rhan hon sy’n rhagnodi swm ffi sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â cheisiadau i fod yn gofrestredig neu yn drwyddedig ddarparu —

(a)mai’r ffi fydd swm a nodir yn y rheoliadau;

(b)y caiff y ffi ei phenderfynu gan berson neu drwy ddull a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff y cyfryw reoliadau ragnodi ffi wahanol ar gyfer gwahanol bersonau.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I10A. 46 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I11A. 46 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(x)

I12A. 46 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

47Gwybodaeth am geisiadauLL+C

Rhaid i awdurdod trwyddedu gyhoeddi gwybodaeth am ei ofynion mewn perthynas ag—

(a)ffurf a chynnwys ceisiadau i fod yn gofrestredig ac yn drwyddedig;

(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu wrth wneud ceisiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I14A. 47 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(w)

48Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan honLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol neu’n ei awdurdodi (ym mha dermau bynnag) i—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—

(a)drwy ei draddodi neu ei thraddodi i’r person,

(b)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,

(c)drwy ei adael neu ei gadael yn nghyfeiriad cywir y person, neu

(d)os yw’r amodau yn is-adran (4) yn cael eu bodloni, drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig.

(3)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(4)Caiff person perthnasol anfon hysbysiad neu ddogfen yn electronig at berson dim ond os bodlonir y gofynion a ganlyn—

(a)rhaid i’r person y mae’r hysbysiad neu’r ddogfen i’w roi neu ei rhoi iddo fod wedi—

(i)nodi wrth y person perthnasol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a

(ii)rhoi cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw i’r person perthnasol, a

(b)rhaid i’r person perthnasol anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.

(5)At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn ei gymhwysiad i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i’w drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel ei fod neu ei bod wedi ei roi neu ei rhoi ar yr amser y gadawyd ef neu hi yn y cyfeiriad.

(7)Mae pob un o’r canlynol yn “berson perthnasol” at ddibenion yr adran hon—

(a)awdurdod trwyddedu;

(b)awdurdod tai lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu;

(c)person sydd, yn rhinwedd awdurdodiad ysgrifenedig, yn arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar ran awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol o’r math a grybwyllir ym mharagraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I16A. 48 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(x)