Deddf Tai (Cymru) 2014

CyffredinolLL+C

49Dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinioLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw person sydd wedi ei ddynodi drwy orchymyn o dan adran 3;

  • [F1mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);]

  • [F1mae i “contract meddiannaeth safonol” (“standard occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;]

  • mae i “cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol” yr un ystyr a roddir i “fully mutual housing association” gan adran 1(2) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985;

  • mae i “eiddo ar rent” (“rental property”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae i “gwaith gosod” (“lettings work”) yr ystyr a roddir gan adran 10;

  • mae i “gwaith rheoli eiddo” (“property management work”) yr ystyr a roddir gan adran 12;

  • mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw landlord cofrestredig sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996;

  • [F1mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;]

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “taliadau cyfnodol” (“periodical payments”) yw taliadau drwy rent neu dâl gwasanaeth;

  • mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr ystyr a roddir gan adran 2.

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at aseinio buddiant i landlord—

(a)yn cynnwys unrhyw drawsgludiad ac eithrio morgais neu arwystl, a

(b)os ymddiriedolwyr yw’r landlord, nid yw’n cynnwys newid yn y personau sydd, am y tro, yn ymddiriedolwyr i’r ymddiriedolaeth.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at gais am drwydded yn cynnwys cyfeiriad at gais am adnewyddu trwydded, a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at roi trwydded gan awdurdod trwyddedu yn cynnwys cyfeiriad at adnewyddu trwydded;

ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 49 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 49 mewn grym ar 23.11.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(y)