RHAN 3SIPSIWN A THEITHWYR
Cwrdd ag anghenion llety
I1I12101Asesu anghenion llety
1
Rhaid i awdurdod tai lleol, ym mhob cyfnod adolygu, gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.
2
Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (1) rhaid i awdurdod tai lleol ymgynghori â’r cyfryw bobl sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—
a
y cyfnod hwnnw o flwyddyn sy’n dechrau pan ddaw’r adran hon i rym, a
F1b
y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod ym mharagraff (a) i ben, a phob cyfnod dilynol o 5 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod adolygu blaenorol i ben.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3)(b) drwy orchymyn.
I2I13102Adroddiad yn dilyn asesiad
1
Ar ôl cynnal asesiad rhaid i awdurdod tai lleol baratoi adroddiad sydd—
a
yn rhoi manylion ynghylch y modd y cynhaliwyd yr asesiad;
b
yn cynnwys crynodeb o—
i
yr ymgynghoriad a gynhaliodd mewn cysylltiad â’r asesiad, a
ii
yr ymatebion (os y’u cafwyd) i’r ymgynghoriad hwnnw;
c
yn rhoi manylion ynghylch yr anghenion llety a nodwyd gan yr asesiad.
2
Rhaid i awdurdod tai lleol gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo asesiad yr awdurdod.
3
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
cymeradwyo’r asesiad fel y’i cyflwynwyd;
b
cymeradwyo’r asesiad gydag addasiadau;
c
gwrthod yr asesiad.
4
Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—
a
diwygio ac ailgyflwyno ei asesiad i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3); neu
b
cynnal asesiad arall (yn yr achos hwn bydd adran 101(2) a’r adran hon yn gymwys eto, fel pe bai’r asesiad yn cael ei gynnal o dan adran 101(1)).
5
Rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi asesiad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
I3I20103Dyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedig
1
Os yw asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn nodi anghenion o fewn ardal yr awdurdod mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, rhaid i’r awdurdod arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y pŵer i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol) i’r graddau y bo’n angenrheidiol i gwrdd â’r anghenion hynny.
2
Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu mewn safleoedd ar gyfer gosod cartrefi symudol, neu mewn cysylltiad â hwy, fannau gweithio a chyfleusterau ar gyfer cynnal gweithgareddau a wneir fel arfer gan Sipsiwn a Theithwyr.
3
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn gyfeiriad at asesiad mwyaf diweddar yr awdurdod o anghenion llety a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 102(3).
I4I21104Methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 103
1
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod tai leol wedi methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir gan adran 103 caniateir iddynt gyfarwyddo’r awdurdod i arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cwrdd â’r anghenion a nodwyd yn ei asesiad cymeradwy.
2
Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod tai lleol y byddai’r cyfarwyddyd yn berthnasol iddo.
3
Rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo.
4
Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;
c
gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.
I5I14105Darparu gwybodaeth ar gais
1
Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth (ar y cyfryw adegau) ag y cânt ei gwneud yn ofynnol mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.
2
Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan yr adran hon yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos neilltuol.
I6I11I15106Canllawiau
1
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
2
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;
b
diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;
c
tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.
I7I16107Dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau tai
1
Mae’r adran hon yn gymwys lle bo’n ofynnol o dan adran 87 of Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i awdurdod tai lleol fod â strategaeth mewn perthynas â chwrdd ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.
2
Rhaid i’r awdurdod tai lleol—
a
rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth baratoi ei strategaeth;
b
ystyried y strategaeth wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).
Cyffredinol
I8I17108Dehongli
Yn y Rhan hon—
mae “anghenion llety” (“accommodation needs”) yn cynnwys anghenion mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt;
mae gan “cartref symudol” (“mobile home”) yr ystyr a roddir gan adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;
ystyr “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yw—
- a
personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
- i
personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
- ii
aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), a
- i
- b
unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
- a
I9I18109Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr yn adran 108 drwy—
a
ychwanegu disgrifiad o bersonau;
b
addasu disgrifiad o bersonau;
c
dileu disgrifiad o bersonau.
2
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon hefyd wneud ba bynnag ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n briodol o ganlyniad i newid i’r diffiniad a grybwyllir yn is-adran (1).
I10I19110Diwygiadau canlyniadol
Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.