2Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer person sydd wedi ei drwyddedu i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord gofnodi’r canlynol—
(a)enw’r person;
(b)cyfeiriad y person ar gyfer gohebiaeth;
(c)os yw’r person yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person;
(d)os yw’r person yn ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangre yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;
(e)pan fo trwydded wedi ei rhoi i’r person gan yr awdurdod trwyddedu—
(i)y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;
(ii)rhif y drwydded;
(iii)a addaswyd y drwydded o dan adran 24; ac os felly y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;
(f)pan fo cais gan y person am drwydded wedi ei gwrthod gan yr awdurdod trwyddedu—
(i)dyddiad y gwrthodiad;
(ii)a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;
(g)pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)