Deddf Tai (Cymru) 2014

RHAN 2LL+CMYNEDIAD I GOFRESTR

3(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu cyfeiriad eiddo ar rent sydd ar ei gofrestr i’r awdurdod.LL+C

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)enw landlord yr eiddo ac enw unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo;

(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i wneud gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig;

(c)os yw gorchymyn atal rhent o dan adran 30 yn cael effaith mewn perthynas â’r eiddo, bod y cyfryw orchymyn yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)

4(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—LL+C

(a)enw landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)enw person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)a yw’r landlord yn gofrestredig;

(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)

5(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—LL+C

(a)rhif cofrestru neu rif trwydded landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)rhif trwydded person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)enw’r landlord ac unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord(fel y bo’n gymwys);

(b)a yw’r landlord yn gofrestredig;

(c)a yw’r landlord neu unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I6Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)