xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(cyflwynir gan adran 14)

ATODLEN 1LL+CCOFRESTR O DAI RHENT PREIFAT

RHAN 1LL+CCYNNWYS COFRESTR

LandlordiaidLL+C

1Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy’n ymwneud â landlord gofnodi’r canlynol—

(a)enw’r landlord;

(b)os yw’r landlord yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y landlord;

(c)cyfeiriad pob eiddo ar rent yn ardal yr awdurdod trwyddedu y mae’r landlord yn landlord arno;

(d)enw a rhif trwydded unrhyw berson a benodir gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord a chyfeiriad pob eiddo ar rent y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef;

(e)rhif cofrestru’r landlord;

(f)y dyddiad pan gofrestrwyd y landlord;

(g)pan fo trwydded wedi cael ei rhoi i’r landlord—

(i)y dyddiad pan roddwyd y drwydded neu y cafodd y drwydded ei hadnewyddu;

(ii)rhif y drwydded;

(iii)a yw’r drwydded wedi ei diwygio o dan adran 24; ac os ydyw y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;

(iv)a yw’r drwydded wedi dod i ben heb gael ei hadnewyddu, neu wedi cael ei dirymu; ac os ydyw y dyddiad dod i ben neu ddirymu;

(h)pan fo cais gan y landlord am drwydded wedi cael ei wrthod gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)dyddiad y gwrthodiad;

(ii)a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;

(i)pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.

(j)pan fo tribiwnlys eiddo preswyl wedi gwneud gorchymyn atal rhent (gweler adran 30) mewn cysylltiad ag eiddo preswyl y mae’r landlord yn landlord iddo—

(i)bod gorchymyn o’r fath wedi ei wneud;

(ii)y dyddiad y daeth y gorchymyn i effaith;

(iii)y dyddiad y peidiodd y gorchymyn gael effaith (gweler adran 31).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)

AsiantauLL+C

2Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer person sydd wedi ei drwyddedu i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord gofnodi’r canlynol—

(a)enw’r person;

(b)cyfeiriad y person ar gyfer gohebiaeth;

(c)os yw’r person yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person;

(d)os yw’r person yn ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangre yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;

(e)pan fo trwydded wedi ei rhoi i’r person gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;

(ii)rhif y drwydded;

(iii)a addaswyd y drwydded o dan adran 24; ac os felly y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;

(f)pan fo cais gan y person am drwydded wedi ei gwrthod gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)dyddiad y gwrthodiad;

(ii)a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;

(g)pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)

RHAN 2LL+CMYNEDIAD I GOFRESTR

3(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu cyfeiriad eiddo ar rent sydd ar ei gofrestr i’r awdurdod.LL+C

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)enw landlord yr eiddo ac enw unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo;

(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i wneud gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig;

(c)os yw gorchymyn atal rhent o dan adran 30 yn cael effaith mewn perthynas â’r eiddo, bod y cyfryw orchymyn yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)

4(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—LL+C

(a)enw landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)enw person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)a yw’r landlord yn gofrestredig;

(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)

5(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—LL+C

(a)rhif cofrestru neu rif trwydded landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)rhif trwydded person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)enw’r landlord ac unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord(fel y bo’n gymwys);

(b)a yw’r landlord yn gofrestredig;

(c)a yw’r landlord neu unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)