(cyflwynir gan adran 61)

ATODLEN 2LL+CCYMHWYSTRA I DDERBYN CYMORTH O DAN BENNOD 2 O RAN 2

Personau nad ydynt yn gymwys i dderbyn cymorthLL+C

1(1)Nid yw person yn gymwys i dderbyn cymorth o dan adran 66, 68, 73 neu 75 os yw’n berson o dramor sydd yn anghymwys am gynhorthwy tai.

(2)Nid yw person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn gymwys am gynhorthwy tai oni bai bod y person hwnnw yn dod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(3)Ni chaiff unrhyw berson a eithrir rhag hawlogaeth i gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai gan adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (eithrio rhag budd-daliadau) ei gynnwys mewn unrhyw ddosbarth a ragnodir o dan is-baragraff (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu, drwy reoliadau, ar gyfer disgrifiadau eraill o bersonau sydd i’w trin fel personau o dramor sydd yn anghymwys i dderbyn cynhorthwy tai at ddiben Pennod 2 o Ran 2.

(5)Caiff person sy’n anghymwys i dderbyn cynhorthwy tai ei ddiystyru wrth benderfynu at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 a yw person sy’n dod o dan is-baragraff (6)—

(a)yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu

(b)ag angen blaenoriaethol am lety.

(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’r person yn dod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan is-baragraff (2), a

[F1(b)os nad yw'r person yn berson a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfned gweithredu—

(i)yn wladolyn un o wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, a

(ii)o fewn dosbarth a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan is-baragraff (2) a oedd yn effeithiol y pryd hwnnw.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 52 (ynghyd ag ergl. 5)

Ceiswyr lloches a’u dibynyddion: darpariaeth drosiannolLL+C

2(1)Hyd gychwyn diddymiad adran 186 o Ddeddf Tai 1996 (ceiswyr lloches a’u dibynyddion), mae’r adran honno yn gymwys i Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf hon fel y bo’n gymwys i Ran 7 o’r Ddeddf honno.

(2)At y diben hwn, yn adran 186 o Ddeddf Tai 1996—

(a)dehonglir y cyfeiriad at adran 185 o’r Ddeddf honno fel cyfeiriad at baragraff 1, a

(b)dehonglir y cyfeiriad at “this Part” fel cyfeiriad at Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf hon ac nid Rhan 7 o’r Deddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I5Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 52 (ynghyd ag ergl. 5)

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn darparu gwybodaethLL+C

3(1)Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, ar gais awdurdod tai lleol, ddarparu’r gyfryw wybodaeth ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod—

(a)o ran a yw person yn berson y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (eithrio rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo, a

(b)i alluogi’r awdurdod i benderfynu a yw’r cyfryw berson yn gymwys i dderbyn cymorth o dan Bennod 2 o Ran 2.

(2)Pan roddir yr wybodaeth honno ar unrhyw ffurf ac eithrio ffurf ysgrifenedig, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau’r wybodaeth honno yn ysgrifenedig os gwneir cais ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan yr awdurdod.

(3)Os yr ymddengys i’r Ysgrifennydd Gwladol bod unrhyw gais, penderfyniad neu newid arall mewn amgylchiadau wedi effeithio ar statws person y rhoddwyd gwybodaeth amdano yn flaenorol i awdurdod tai lleol o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig am y ffaith honno, y rheswm dros y ffaith a’r dyddiad y daeth yr wybodaeth flaenorol yn anghywir.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I7Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 52 (ynghyd ag ergl. 5)