xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 2LL+CSIPSIWN A THEITHWYR

Deddf Llywodraeth Leol 2003LL+C

23(1)Mae’r diffiniad o “housing” yn is-adran (4) o adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (datganiadau a strategaethau tai) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)hepgorer y geiriau “section 225 of the Housing Act 2004”, a

(b)ar ôl “of” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder—

(a)section 225 of the Housing Act 2004, in the case of a local housing authority in England;

(b)Part of the Housing (Wales) Act 2014, in the case of a local housing authority in Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)

Deddf Tai 2004LL+C

24(1)Mae Deddf Tai 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 225 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,

(b)yn is-adran (2), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,

(c)yn y diffiniad o “gypsies and travellers” yn is-adran (5), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(d)yn y pennawd, ar ôl “local housing authorities” mewnosoder “in England”.

(3)Yn is-adran (1) o adran 226 (canllawiau mewn perthynas ag adran 225)—

(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(b)ar ôl “local housing authorities” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I4Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)

Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3235)LL+C

25Mae Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3235) wedi eu dirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I6Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013LL+C

26(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y diffiniad o “Sipsiwn a Theithwyr” yn adran 62 (dehongli arall), yn lle’r geiriau o “personau” lle mae’n digwydd gyntaf hyd at y diwedd rhodder

(a)

personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

(i)

personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol , a

(ii)

aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a

(b)

unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol;.

(3)yn is-baragraff (1) o baragraff 10 o Atodlen 1 (siewmyn teithiol), hepgorer “safle’n” a mewnosoder “safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I8Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)