Deddf Tai (Cymru) 2014

127Pwerau mynediad ac archwilio

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ar bob adeg resymol—

(a)hawl mynediad i fangre yr awdurdod tai lleol (heblaw annedd) dan sylw;

(b)hawl i archwilio, a chymryd copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod, y mae’r person yn eu ystyried yn berthnasol i arfer ei swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon.

(2)Mae’r personau canlynol yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 120 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, y person y mae’r awdurdod tai lleol yn ymrwymo i gontract neu drefniant eraill ag ef sy’n ofynnol yn ôl y cyfarwyddyd;

(b)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 121;

(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 122;

(d)person a enwebir gan gyfarwyddyd o dan adran 122.

(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill—

(a)mae hawl gan berson (“P”) i gael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu ddogfennau eraill dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a

(b)caiff P ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol ddarparu unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol gan P (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, sicrhau bod gwybodaeth ar gael i edrych arno neu ei gopïo ar ffurf ddarllenadwy)—

(i)y person y mae’r cyfrifiadur yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran;

(ii)unrhyw berson sy’n gyfrifol am weithredu’r cyfrifiadur, yr offer neu’r deunydd, neu’n ymwneud mewn modd arall â’u gweithredu.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.

(5)Yn yr adran hon mae “dogfen” a “chofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.