RHAN 5CYLLID TAI
Darpariaeth gyffredinol
135Darparu gwybodaeth ar gais
1
Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei phennu at ddibenion galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.
2
Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan yr adran hon yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos neilltuol.
3
Os bydd awdurdod tai lleol yn peidio â chydymffurfio â’r adran hon cyn pen unrhyw gyfnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu, caiff Gweinidogion Cymru arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar sail unrhyw ragdybiaethau ac amcangyfrifon y mae Gweinidogion Cymru yn gweld yn dda.