RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Trwyddedu

20Gofyniad person addas a phriodol

1

Wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig fel sy’n ofynnol gan adran 19(2)(a) rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i’r holl faterion y mae’n eu hystyried yn briodol.

2

Ymhlith y materion y mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi sylw iddynt y mae unrhyw dystiolaeth o fewn is-adrannau (3) i (5).

3

Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person—

a

wedi cyflawni unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau sydd â gofynion hysbysu),

b

wedi aflonyddu ar rywun neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny, neu

c

wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy’n ymwneud â thai neu landlord a thenant.

4

Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon—

a

os yw’n dangos bod unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r person neu a oedd yn gysylltiedig â’r person yn flaenorol (pa un ai ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny a nodir yn is-adran (3), a

b

mae’n ymddangos i’r awdurdod trwyddedu bod y dystiolaeth yn berthnasol wrth ystyried a yw’r person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig.

5

Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi methu yn flaenorol â chydymffurfio ag amod trwydded a roddwyd o dan y Rhan hon gan awdurdod trwyddedu.

6

Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau trwyddedu ynghylch penderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig fel sy’n ofynnol gan adran 19(2)(a).

7

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy orchymyn er mwyn amrywio’r dystiolaeth y mae’n rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw iddi wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig.