RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Trwyddedu
21Penderfynu ar gais
1
Pan fo awdurdod trwyddedu yn fodlon bod y ceisydd yn cwrdd â’r gofynion a nodir yn adran 19, rhaid iddo roi trwydded i’r ceisydd.
2
Ar ôl rhoi’r drwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu—
a
neilltuo rhif trwydded i ddeiliad y drwydded;
b
cofnodi rhif y drwydded yn y drwydded;
c
cofnodi’r dyddiad y rhoddwyd y drwydded yn y drwydded;
d
rhoi’r drwydded i ddeiliad y drwydded.
3
Pan fo awdurdod trwyddedu yn gwrthod cais, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—
a
bod y cais wedi ei wrthod a’r rhesymau pam y’i gwrthodwyd;
b
am hawl y ceisydd i apelio (gweler adran 27).
4
Rhaid i’r awdurdod trwyddedu benderfynu ar gais o fewn cyfnod rhagnodedig.