RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Gorfodi
32Gorchmynion ad-dalu rhent
1
Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon ac adran 33, wneud gorchymyn (“gorchymyn ad-dalu rhent”) mewn perthynas ag annedd ar gais a wnaed iddo gan—
a
yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,
b
yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu
c
tenant yr annedd.
2
Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (1) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno (oni bai mai’r awdurdod tai lleol yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.
3
“Gorchymyn ad-dalu rhent” yw gorchymyn a wneir mewn perthynas ag annedd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol (gweler is-adran (9)) dalu’r cyfryw swm i’r ymgeisydd mewn cysylltiad â’r dyfarniad neu’r dyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol neu’r budd-dal tai a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (5), neu (yn ôl y digwydd) y taliadau cyfnodol a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (7)(b), fel a bennir yn y gorchymyn.
4
Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn ad-dalu rhent dim ond os yw wedi ei fodloni—
a
pan yr ymgeisydd yw’r awdurdod trwyddedu neu pan fo’r ymgeisydd yn awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd), o’r materion a grybwyllir yn is-adran (5);
b
pan fo’r ymgeisydd yn denant, o’r materion a grybwyllir yn is-adran (7).
5
Rhaid bod y tribiwnlys wedi ei fodloni—
a
bod trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) wedi ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad yr hysbysiad o achos arfaethedig sy’n ofynnol gan is-adran (6) (pa un a oes person wedi ei gyhuddo neu ei gollfarnu o’r drosedd ai peidio);
b
bod—
i
un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol wedi eu talu (i unrhyw berson), neu
ii
budd-dal tai wedi ei dalu (i unrhyw berson) mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig yr annedd,
yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod y cyfryw drosedd wedi cael ei chyflawni ynddo, ac
c
y cydymffurfiwyd â gofynion is-adran (6) mewn perthynas â’r cais.
6
Dyma’r gofynion hynny—
a
rhaid bod yr awdurdod sy’n ceisio am orchymyn fod wedi rhoi hysbysiad (“hysbysiad o achos arfaethedig”) i’r person priodol—
i
sy’n hysbysu’r person bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn ad-dalu rhent,
ii
sy’n nodi’r rhesymau pam y mae’n bwriadu gwneud hynny,
iii
sy’n nodi’r swm y bydd yn ceisio ei adfer o dan yr is-adran honno a sut cyfrifwyd y swm hwnnw, a
iv
sy’n gwahodd y person i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod o fewn cyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau a bennir yn yr hysbysiad;
b
rhaid bod y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, ac
c
rhaid bod yr awdurdod wedi ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y person priodol o fewn y cyfnod hwnnw.
7
Rhaid bod y tribiwnlys wedi ei fodloni—
a
bod person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd, neu fod gorchymyn ad-dalu rhent wedi ei gwneud yn ofynnol i berson wneud taliad mewn cysylltiad â’r canlynol—
i
un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol, neu
ii
budd-dal tai a delir mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd;
b
bod y tenant wedi talu i’r person priodol (pa un ai’n uniongyrchol neu fel arall) daliadau cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod trosedd o’r fath wedi bod yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd, ac
c
y gwnaed y cais o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
i
gyda dyddiad y gollfarn neu’r gorchymyn, neu
ii
os yw gorchymyn o’r fath yn dilyn collfarn o’r fath (neu i’r gwrthwyneb), gyda dyddiad yr un sy’n digwydd hwyraf.
8
Yn yr adran hon—
a
nid yw cyfeiriadau at drosedd o dan adran 7(5) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (3) o’r adran honno, a
b
nid yw cyfeiriadau at drosedd a gyflawnwyd o dan adran 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.
9
Yn yr adran hon—
ystyr “budd-dal tai” (“housing benefit”) yw budd-dal tai a ddarperir yn rhinwedd cynllun o dan adran 123 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
ystyr “dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol” (“relevant award of universal credit”) yw dyfarniad o gredyd cynhwysol yr oedd ei gyfrifiad yn cynnwys swm o dan adran 11 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, a gyfrifwyd yn unol ag Atodlen 4 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau tai i rentwyr) (OS 2013/376) neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol sy’n disodli’r Atodlen honno, mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol mewn perthynas â thenantiaeth ddomestig yr annedd;
ystyr “person priodol” (“appropriate person”), mewn perthynas ag unrhyw daliad o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai neu daliad cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig annedd, yw’r person oedd â hawl i gael, ar ran y person hwnnw ei hun, daliadau cyfnodol mewn cysylltiad â’r denantiaeth ar yr adeg y gwnaethpwyd y taliadau;
ystyr “tenant” (“tenant”), mewn perthynas ag unrhyw daliad cyfnodol, yw person a oedd yn denant ar adeg y taliad (ac mae i “tenantiaeth” ystyr gyfatebol).
10
At ddibenion yr adran hon, mae swm—
a
nad yw’n cael ei dalu gan denant yn wirioneddol ond sy’n cael ei ddefnyddio i ryddhau atebolrwydd y tenant yn llawn neu’n rhannol mewn cysylltiad â thaliad cyfnodol (er enghraifft, drwy wrthbwyso’r swm yn erbyn unrhyw atebolrwydd o’r fath), a
b
nad yw’n swm o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai,
i’w ystyried fel swm a delir gan y tenant mewn cysylltiad â’r taliad cyfnodol hwnnw.