RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Gwybodaeth

36Ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau

1

Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod tai lleol ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (2) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod tai lleol yn ystyried y byddai gwneud hynny—

a

yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod tai lleol ei hun, neu

b

yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r awdurdod tai lleol.

2

Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae awdurdod tai lleol wedi cael gafael arni wrth iddo arfer—

a

ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;

b

ei swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y dreth gyngor).

3

Dylid trin gwybodaeth a ddaeth i law awdurdod tai lleol o dan adran 134 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (budd-dal tai) cyn i’r adran honno gael ei diddymu gan Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 fel gwybodaeth y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

4

Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod trwyddedu arall ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod arall gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod arall yn ystyried y byddai gwneud hynny—

a

yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

b

yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.

5

Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth sydd wedi dod i law awdurdod trwyddedu wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

6

Caiff awdurdod trwyddedu ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (1) neu (4) ai peidio) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

7

Os bydd awdurdod tai lleol yn gofyn i awdurdod trwyddedu ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y byddai gwneud hynny—

a

yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod ei hun, neu

b

yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.

8

Caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (7) ai peidio) at unrhyw ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.