RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Termau allweddol

58Ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestig

1

Ystyr “camdriniaeth” yw trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu fygylus ac unrhyw ffurf arall ar gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at y perygl o niwed; ac ystyr “camdriniaeth ddomestig” yw camdriniaeth sy’n dod o du person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.

2

Mae person yn gysylltiedig â pherson arall os ydynt—

a

yn briod â’i gilydd neu wedi bod yn briod â’i gilydd;

b

yn bartneriaid sifil i’w gilydd neu wedi bod yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

c

yn byw â’i gilydd neu wedi bod yn byw â’i gilydd mewn perthynas deuluol barhaus (pa un ai os ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw);

d

yn byw neu wedi byw ar yr un aelwyd;

e

yn berthnasau;

f

wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

g

wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

h

mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd, neu wedi bod mewn perthynas o’r fath, sydd, neu a oedd, wedi parhau am gyfnod sylweddol;

i

mewn perthynas â phlentyn, y naill a’r llall yn rhiant i’r plentyn neu â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath.

3

Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu neu yn dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y Bennod hon—

a

os yw un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant naturiol o’r fath, a

b

y person arall yw—

i

y plentyn, neu

ii

person sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu neu y mae’r plentyn wedi ei leoli gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu ar unrhyw adeg.

4

Mae plentyn yn dod o fewn yr adran hon—

a

os yw asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, wedi ei hawdurdodi i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (gosod plentyn â chydsyniad rhiant) neu mae’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu

b

os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau ar gyfer ei fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wneir—

i

yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu 1976,

ii

yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987, neu

c

os yw’r plentyn yn destun gorchymyn parhauster yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi’r awdurdod i fabwysiadu.

5

Yn yr adran hon—

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989;

  • mae i “cytundeb partneriaeth sifil” yr ystyr a roddir i “civil partnership agreement” gan adran 73 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004;

  • ystyr “gorchymyn mabwysiadu” yw gorchymyn mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption order” gan adran 72(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 neu adran 46(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, taid (tad-cu), nain (mam-gu), plentyn, ŵyr neu wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).