Deddf Tai (Cymru) 2014

73Dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartrefLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—

(a)yn ddigartref, a

(b)yn gymwys i gael cymorth.

(2)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys os yw’r awdurdod yn atgyfeirio’r cais at awdurdod tai lleol arall (gweler adran 80).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 73 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 24