xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Darpariaethau atodol

91Lleoli y tu allan i’r ardal

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu yn ei ardal, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(2)Os yw’r awdurdod yn sicrhau bod llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu y tu allan i’w ardal yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid iddo roi hysbysiad i’r awdurdod tai lleol (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) y mae’r llety wedi ei leoli yn ei ardal.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi—

(a)enw’r ceisydd,

(b)nifer y personau eraill sy’n preswylio fel arfer gyda’r ceisydd fel aelod o’i deulu neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt breswylio gyda’r ceisydd, a disgrifiad o’r personau hynny,

(c)cyfeiriad y llety,

(d)y dyddiad y daeth y llety ar gael i’r ceisydd, ac

(e)pa swyddogaeth o dan y Bennod hon yr oedd yr awdurdod yn ei chyflawni wrth sicrhau bod y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(4)Rhaid i’r hysbysiad fod ar ffurf ysgrifenedig, a rhaid ei roi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daeth y llety ar gael i’r ceisydd.