Adrannau 18 ac 19 – Dyletswydd gyffredinol a swyddogaethau’r Comisiynydd
84.Mae adran 18 yn pennu mai dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn benodol drwy weithredu fel ceidwad gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion ac annog cyrff cyhoeddus i roi rhagor o ystyriaeth i effaith hirdymor eu gweithgareddau. At y diben hwnnw, rhaid i’r Comisiynydd fonitro ac asesu’r modd y cyflawnir yr amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus.
85.Mae adran 19(1) yn darparu y caiff y Comisiynydd, wrth gyflawni ei ddyletswydd gyffredinol, ddarparu cyngor neu gymorth (heblaw cymorth ariannol) i gorff cyhoeddus neu i unrhyw berson arall y tybia’r Comisiynydd ei fod yn cymryd, neu’n ceisio cymryd camau a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant. Mae hyn yn cynnwys darparu cyngor ar newid yn yr hinsawdd.
86.Caiff y Comisiynydd ddarparu cyngor neu gymorth i Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ynglŷn â pharatoi eu cynllun llesiant lleol.
87.Caiff y Comisiynydd hefyd annog arferion da a hybu ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus o’r angen i gyflawni eu hamcanion llesiant mewn modd sy’n gydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy; ac annog cyrff cyhoeddus i gydweithio â’i gilydd a chyda personau eraill os gallai hynny eu helpu i gyflawni eu hamcanion llesiant.
88.Mae adran 19(2) yn rhoi’r pŵer i’r Comisiynydd gynnal ymchwil neu astudiaeth arall mewn perthynas â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, y graddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy ac unrhyw beth mewn cysylltiad â’r pethau hyn sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, neu unrhyw ran o Gymru.