Atodlen 3 – Byrddau gwasanaethau cyhoeddus: darpariaethau pellach
122.Mae paragraff 1 yn pennu mai cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob aelod fod yn bresennol mewn cyfarfod er mwyn i benderfyniadau a wneir yn y cyfarfod hwnnw gael eu hystyried yn ddilys.
123.Mae paragraffau 2 and 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch amseroedd cyfarfodydd. Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal ei gyfarfod cyntaf, a gadeirir gan yr awdurdod lleol, heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd gan yr awdurdod lleol. Rhaid i’r bwrdd hefyd gynnal cyfarfod gorfodol, a gadeirir gan yr awdurdod lleol, heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl etholiad cyffredin, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
124.Mae paragraff 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn cytuno ar ei gylch gorchwyl yn ei gyfarfod cyntaf. Mae is-baragraff (2) yn rhoi manylion am y materion sydd i’w cynnwys yn y cylch gorchwyl. Caiff y bwrdd adolygu ei gylch gorchwyl fel y gwêl yn dda, ond rhaid iddo ei adolygu yn y cyfarfod gorfodol a gynhelir yn dilyn etholiad cyffredin. Yn dilyn adolygiad, caiff y bwrdd ddiwygio ei gylch gorchwyl.
125.Mae paragraff 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn darparu cymorth gweinyddol i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.
126.Mae paragraff 6 yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â sefydlu is-grwpiau o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus a gallu’r is-grwpiau hynny i arfer swyddogaethau’r bwrdd. Ni chaiff is-grŵp o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wneud y canlynol:
gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 o’r Ddeddf;
gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;
paratoi neu gyhoeddi asesiad llesiant lleol;
ymgynghori ar ddrafft o asesiad llesiant lleol neu baratoi asesiad drafft at ddibenion ymgynghori;
paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;
ymgynghori ar ddrafft o gynllun llesiant lleol neu baratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddibenion ymgynghori;
adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol, cyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig neu ymgynghori ar ddrafft o gynllun llesiant lleol diwygiedig;
ymgynghori o dan adran 44;
cytuno i’r bwrdd—
(i)uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1), neu
(ii)cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).
127.Mae paragraff 7 yn rhoi manylion am yr unigolion y mae’n rhaid iddynt gynrychioli pob aelod o’r bwrdd. Caiff cyfranogwyr gwadd ddynodi’r unigolyn sydd i’w cynrychioli. Caiff y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus hefyd wahodd un neu ragor o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod.