Adran 48 – Cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus
179.Mae adran 48 yn darparu y caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gydlafurio os ydynt o’r farn y byddai hynny’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant. Yn ychwanegol, caiff Gweinidogion Cymru, yn rhinwedd is-adran (2), gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i gydlafurio ym mha bynnag fodd y tybia Gweinidogion Cymru fyddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
180.Ceir ystyried bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn cydlafurio at ddibenion adran 48 os yw:
yn cydweithio â bwrdd arall;
yn hwyluso gweithgareddau bwrdd arall;
yn cydgysylltu ei weithgareddau â bwrdd arall;
yn arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran;
yn darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.