17Effaith cytundebau rheoli tir penodol ar olynwyr yn y teitlLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Pan wneir cytundeb rheoli tir â pherson sydd â buddiant cymhwysol mewn tir sy’n ddarostyngedig i’r cytundeb ac nad yw’n dir cofrestredig, a’r cytundeb yn darparu bod darpariaethau’r is-adran hon yn cael effaith mewn perthynas â’r cytundeb—
(a)caniateir i’r cytundeb gael ei gofrestru fel pridiant tir o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 (p. 61) fel pe bai’n bridiant sy’n effeithio ar dir sy’n dod o fewn paragraff (ii) o Ddosbarth D,
(b)mae darpariaethau adran 4 o’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud ag effaith peidio â chofrestru) yn gymwys fel pe bai’r cytundeb yn bridiant tir o’r fath, ac
(c)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 4 o’r Ddeddf honno, mae’r cytundeb yn rhwymo unrhyw olynydd i’r person sydd â buddiant cymwys i’r un graddau ag y mae’n rhwymo’r person hwnnw, er gwaethaf y ffaith na fyddai wedi rhwymo’r olynydd hwnnw oni bai am ddarpariaethau’r is-adran hon.
(2)Pan wneir cytundeb rheoli tir â pherson sydd â buddiant cymwys mewn tir sy’n ddarostyngedig i’r cytundeb ac sy’n dir cofrestredig, a’r cytundeb yn darparu bod darpariaethau’r is-adran hon yn cael effaith mewn perthynas â’r cytundeb—
(a)caiff y cytundeb fod yn destun hysbysiad yn y gofrestr teitlau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p. 9) fel pe bai’n fuddiant sy’n effeithio ar y tir cofrestredig,
(b)mae darpariaethau adrannau 28 i 30 o’r Ddeddf honno (effaith gwarediadau tir cofrestredig ar flaenoriaeth buddiannau gwrthwynebus) yn gymwys fel pe bai’r cytundeb yn fuddiant o’r fath; ac
(c)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r adrannau hynny, mae’r cytundeb yn rhwymo unrhyw olynydd i’r person sydd â buddiant cymwys i’r un graddau ag y mae’n rhwymo’r person hwnnw, er gwaethaf y ffaith na fyddai wedi rhwymo’r olynydd hwnnw oni bai am ddarpariaethau’r is-adran hon.
(3)Mae gan berson fuddiant cymwys mewn tir at ddiben yr adran hon os yw’r buddiant—
(a)yn ystad mewn ffi syml mewn meddiannaeth absoliwt;
(b)yn dymor o flynyddoedd absoliwt a roddwyd am dymor o fwy na saith mlynedd o ddyddiad ei roi ac yn yr achos hwnnw bod rhyw ran o’r cyfnod y rhoddwyd y tymor o flynyddoedd mewn perthynas ag ef yn parhau heb ddod i ben.
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “olynydd” (“successor”), mewn perthynas â chytundeb â pherson sydd â buddiant cymwys mewn unrhyw dir, yw person y mae ei deitl yn deillio o’r person hwnnw sydd â buddiant cymwys, neu sy’n hawlio fel arall o dan y person hwnnw, ac eithrio yn hawl buddiant neu bridiant yr oedd buddiant y person gyda’r buddiant cymwys yn ddarostyngedig iddo yn union cyn—
(a)
yr adeg y gwnaed y cytundeb, pan nad yw’r tir yn dir cofrestredig, neu
(b)
yr adeg y cofrestrwyd yr hysbysiad am y cytundeb, pan fo’r tir yn dir cofrestredig;
mae i “tir cofrestredig” yr un ystyr ag a roddir i “registered land” yn Neddf Cofrestru Tir 2002.