Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 17/10/2023.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
39Cynigion a pholisïau ar gyfer cyrraedd cyllideb garbonLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn amlinellu eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.
(2)Rhaid i’r adroddiad nodi cynigion a pholisïau sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer y cyfnod cyllidebol cyntaf cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw;
(b)cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer yr ail gyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach cyn diwedd blwyddyn gyntaf y cyfnod o dan sylw.
Back to top