Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 7

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

7Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd, yn eu barn hwy, o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.

(2)Cyn cyhoeddi rhestr o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru (“CNC”) ynghylch yr organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd i’w cynnwys ar y rhestr.

(3)Heb ragfarnu adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a

(b)annog eraill i gymryd camau o’r fath.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn ymgynghoriad ag CNC—

(a)adolygu’n gyson unrhyw restr a gyhoeddir ganddynt o dan yr adran hon,

(b)gwneud y diwygiadau hynny i unrhyw restr o’r fath y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, ac

(c)cyhoeddi unrhyw restr a ddiwygir yn y fath fodd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei diwygio.

(5)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

Back to top

Options/Help