Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Chapter
PrintThis
Cross Heading
only
Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywir
Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/01/2018.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywir.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywirLL+C
152Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywirLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)os yw person yn darparu gwybodaeth anghywir, neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb, wrth gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth heblaw hysbysiad cyswllt dyledwr, a
(b)os bodlonir amod 1, 2 neu 3.
(2)Amod 1 yw bod yr anghywirdeb—
(a)yn fwriadol, neu
(b)yn deillio o fethiant ar ran y person i gymryd gofal rhesymol.
(3)Amod 2 yw bod y person yn gwybod am yr anghywirdeb ar yr adeg y darperir yr wybodaeth neu y cyflwynir y ddogfen ond nad yw’n hysbysu ACC ar y pryd.
(4)Amod 3 yw bod y person—
(a)yn darganfod yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
(b)yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC.
(5)Mae’r person yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.
(6)Pan fo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amod 1, 2 neu 3 mewn cysylltiad â hwy, mae cosb yn daladwy am bob anghywirdeb o’r fath.
Back to top