105Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [, 103A neu 103B]: defnyddio offer a deunyddiauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag unrhyw offer neu ddeunyddiau sydd eu hangen at ddiben archwiliad o dan adran [103, 103A neu 103B i’r fangre] sy’n cael ei harchwilio.
(2)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag offer neu ddeunyddiau i’r fangre—
(a)ar adeg y mae meddiannydd y fangre yn cytuno iddi, neu
(b)ar unrhyw adeg resymol, os bodlonir y naill neu’r llall o’r amodau a ganlyn—
(i)y dyroddwyd hysbysiad o dan adran 103(3)(b)(i) a bod yr hysbysiad yn pennu bod yr offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre, neu
(ii)bod gan ACC sail dros gredu y byddai dyroddi hysbysiad o’r fath yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.
(3)Os dygir offer neu ddeunyddiau i’r fangre—
(a)heb gytundeb y meddiannydd, neu
(b)heb i hysbysiad gael ei ddyroddi yn unol ag is-adran (2)(b)(i),
rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y mae’r offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre.
(4)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;
(b)os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;
(c)mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.
(5)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.
(6)Os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, neu’r defnydd o offer neu ddeunyddiau, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.
[(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn