Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Yr isafswm cyntaf

This section has no associated Explanatory Notes

16(1)Mae’r “isafswm cyntaf” i’w bennu yn unol ag is-baragraff (2) oni fodlonir amodau A i C yn is-baragraff (3), ac yn yr achos hwnnw mae i’w bennu yn unol â’r is-baragraff hwnnw.

(2)Yr “isafswm cyntaf” yw—

(a)os y buddiant trethadwy a gaffaelir (neu a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei gaffael) o dan y trafodiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2) yw holl destun y contract gwreiddiol, swm unrhyw gydnabyddiaeth (mewn arian neu gyfwerth ariannol) y cytunir ei rhoi, o dan delerau’r contract gwreiddiol, ar gyfer caffael y testun hwnnw, neu

(b)os nad yw paragraff (a) yn gymwys, hynny o’r swm a grybwyllir yn y paragraff hwnnw sydd i’w briodoli, ar sail dosraniad teg a rhesymol, i’r buddiant trethadwy a gaffaelir (neu a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei gaffael) o dan y trafodiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2).

(3)Os bodlonir amodau A i C, yr “isafswm cyntaf” yw swm unrhyw gydnabyddiaeth (mewn arian neu gyfwerth ariannol) y cytunir ei rhoi, o dan delerau’r trosglwyddiad i’r T cyntaf, mewn cysylltiad â thestun y trafodiad hwnnw (gan gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth sy’n ymwneud â rhwymedigaeth y trosglwyddwr o dan y trosglwyddiad i’r T cyntaf).

  • Amod A

    Bod y trafodiad cyn-gwblhau y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2) yn un mewn cadwyn o drafodiadau olynol (oll ag o leiaf ran o’u testun yn gyffredin) sy’n drafodiadau cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol.

  • Amod B

    Mai person (“T”) yw’r trosglwyddwr mewn trafodiad cyn-gwblhau sy’n ffurfio rhan o’r gadwyn a bod T yn gysylltiedig â’r canlynol, neu heb fod yn gweithredu hyd braich iddynt—

    (a)

    y trosglwyddai o dan y trafodiad hwnnw, neu

    (b)

    y trosglwyddai mewn trafodiad dilynol yn y gadwyn (gan gynnwys y trafodiad cyn-gwblhau y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2)).

  • Amod C

    Gan ystyried yr holl amgylchiadau, nad sicrhau mantais drethiannol (ar gyfer unrhyw berson) oedd prif ddiben T, neu un o brif ddibenion T, wrth ymrwymo i unrhyw drafodiad cyn-gwblhau yn y gadwyn neu unrhyw drefniant yr oedd trafodiad o’r fath yn rhan ohono.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y T cyntaf” yw—

(i)os bodlonir amod B mewn perthynas ag un trafodiad cyn-gwblhau yn unig, T, neu

(ii)os bodlonir amod B mewn perthynas â mwy nag un trafodiad cyn-gwblhau yn y gadwyn, y trosglwyddwr mewn perthynas â’r cyntaf o’r trafodiadau cyn-gwblhau y bodlonir amod B mewn perthynas ag ef;

(b)ystyr “y trosglwyddiad i’r T cyntaf” yw—

(i)y trafodiad cyn-gwblhau y mae’r T cyntaf yn drosglwyddai oddi tano, neu

(ii)y contract gwreiddiol (os T yw’r prynwr gwreiddiol);

(c)mae i “mantais drethiannol” yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 31(3).