Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Termau allweddol eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

4(1)Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at ran o destun y contract gwreiddiol—

(a)yn gyfeiriadau at fuddiant trethadwy sydd yr un fath â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato ym mharagraff 2(1)(a) ac eithrio ei fod yn ymwneud â rhan o’r tir o dan sylw yn unig, a

(b)hefyd yn cynnwys, i’r graddau y bo’n briodol, fuddiannau neu hawliau sy’n perthyn i’r buddiant trethadwy neu’n ymwneud ag ef.

(2)Yn yr Atodlen hon, ystyr “y trosglwyddwr”, mewn perthynas â thrafodiad cyn-gwblhau, yw parti i’r trafodiad cyn-gwblhau yr oedd ganddo, yn union cyn i’r trafodiad cyn-gwblhau ddigwydd, yr hawl i alw am drosglwyddo testun y trafodiad cyn-gwblhau (fel y daeth i fod).

(3)Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at “testun” trafodiad cyn-gwblhau—

(a)yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy y mae gan y trosglwyddai yr hawl i alw am ei drosglwyddo o ganlyniad i’r trafodiad cyn-gwblhau, a

(b)hefyd yn cynnwys, i’r graddau y bo’n briodol, fuddiannau neu hawliau sy’n perthyn i’r buddiant trethadwy neu’n ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3