xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12
33(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy sydd y trafodiad cyntaf o dan drefniant cyllid arall yr ymrwymir iddo rhwng person a sefydliad ariannol.
(2)Mae’r person (yn hytrach na’r sefydliad) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr mewn perthynas â’r trafodiad.
(3)Yn y paragraff hwn—
mae i “sefydliad ariannol” (“financial institution”) yr ystyr a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 10 (rhyddhadau cyllid eiddo arall);
mae i “trafodiad cyntaf” (“first transaction”), mewn perthynas â threfniant cyllid arall, yr ystyr a roddir gan baragraff 2(1)(a) neu 3(1)(a) o’r Atodlen honno;
ystyr “trefniant cyllid arall” (“alternative finance arrangement”) yw trefniant o fath a grybwyllir ym mharagraff 2(1) neu 3(1) o’r Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 5 para. 33 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3