RHAN 5CYMHWYSO’R DDEDDF A DCRHT I BERSONAU A CHYRFF PENODOL

I1I237Cydbrynwyr: rheolau cyffredinol

1

Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn gymwys i drafodiad tir pan fo dau brynwr neu ragor sydd neu a fydd â’r hawl ar y cyd i’r buddiant a gaffaelir.

2

Y rheolau cyffredinol yw—

a

mae unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad yn rhwymedigaeth ar ran y prynwyr ar y cyd ond caniateir i unrhyw un neu ragor ohonynt ei chyflawni,

b

mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud gan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r prynwr gael ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd,

c

mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’r Ddeddf hon neu DCRhT yn awdurdodi ei wneud gan y prynwr gael ei wneud ganddynt hwy i gyd, a

d

mae unrhyw atebolrwydd ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad (yn benodol, unrhyw atebolrwydd sy’n codi yn rhinwedd y methiant i gyflawni rhwymedigaeth o fewn paragraff (a)) yn atebolrwydd ar ran y prynwyr ar y cyd ac yn unigol.

3

Mae’r rheolau cyffredinol hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir yn adrannau 38 i 40.

4

Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

a

darpariaethau Atodlen 7 sy’n ymwneud â phartneriaethau, a

b

darpariaethau Atodlen 8 sy’n ymwneud ag ymddiriedolwyr.