xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH

Cyfrifo treth

39Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys—

(a)asesiad o swm y dreth sydd i’w godi ar y person mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu (gweler adran 41), a

(b)naill ai—

(i)datganiad gan y person fod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar y ffurflen dreth, a’r wybodaeth mewn unrhyw ddogfen sy’n mynd gyda’r ffurflen dreth, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y person, neu

(ii)os yw’r person yn awdurdodi asiant i lenwi a dychwelyd y ffurflen dreth ar ran y person, ardystiad gan yr asiant fod y person wedi gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)Rhaid dychwelyd y ffurflen dreth ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

(4)Dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth—

(a)yw diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo, oni bai y caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r dyddiad ffeilio, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(5)Y cyfnodau cyfrifyddu y mae’n rhaid i berson ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â hwy—

(a)yw’r cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7), oni bai y caiff y cyfnodau hynny eu hamrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7) eu hamrywio o dan adran 40, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r cyfnodau cyfrifyddu, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(6)Yn achos person sy’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy (neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig), a

(ii)sy’n dod i ben â diwrnod a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir gan ACC i’r person;

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob cyfnod dilynol o 3 mis y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo.

(7)Yn achos person nad yw’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy, a

(ii)sy’n dod i ben â diwedd y chwarter calendr y mae’r person yn dechrau gwneud hynny (neu, os yw’n gynharach, y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig);

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob chwarter calendr dilynol y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo (ond os daw’r person yn gofrestredig cyn diwedd chwarter calendr, daw’r cyfnod cyfrifyddu sy’n ymwneud â’r chwarter hwnnw i ben â’r diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig).

(8)Yn yr adran hon, ystyr “chwarter calendr” yw cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr.

40Pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio

(1)Caiff ACC amrywio—

(a)hyd cyfnod cyfrifyddu;

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth.

(2)Gwneir amrywiad drwy ddyroddi hysbysiad i’r person y mae’r amrywiad yn gymwys iddo.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi manylion yr amrywiad.

(4)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad o dan yr adran hon naill ai—

(a)ar gais person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy neu sy’n bwriadu gwneud hynny, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(5)Rhaid i gais i amrywio gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(6)Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r person a wnaeth y cais.

41Y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu

(1)Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo.

(2)Ond os yw’r person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ar y safle yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w godi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo (yn hytrach na’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo).

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r person wedi rhoi hysbysiad i ACC, cyn dyroddi’r anfoneb dirlenwi, nad yw’r person yn dymuno manteisio arni.

(4)Caiff y person amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy roi hysbysiad pellach i ACC.

(5)Caiff person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy, neu sy’n bwriadu gwneud hynny, wneud cais ysgrifenedig i ACC am gymhwyso is-adran (2)—

(a)i’r holl warediadau trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy arno, neu

(b)i ddisgrifiad o warediadau trethadwy a bennir yn y cais,

fel pe bai’r cyfeiriad at gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriad at gyfnod hwy.

(6)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais; ac os yw ACC yn caniatáu’r cais, rhaid i’r hysbysiad bennu’r cyfnod hwy a’r gwarediadau trethadwy y mae’r cyfnod hwy i’w gymhwyso mewn perthynas â hwy.

(7)Caiff ACC amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy ddyroddi hysbysiad pellach i’r person.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “anfoneb dirlenwi” yw anfoneb—

(a)a ddyroddir mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, a

(b)sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3.

(9)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 3.