RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Cyfrifo treth
39Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu
1
Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.
2
Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys—
a
asesiad o swm y dreth sydd i’w godi ar y person mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu (gweler adran 41), a
b
naill ai—
i
datganiad gan y person fod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar y ffurflen dreth, a’r wybodaeth mewn unrhyw ddogfen sy’n mynd gyda’r ffurflen dreth, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y person, neu
ii
os yw’r person yn awdurdodi asiant i lenwi a dychwelyd y ffurflen dreth ar ran y person, ardystiad gan yr asiant fod y person wedi gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.
3
Rhaid dychwelyd y ffurflen dreth ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.
4
Dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth—
a
yw diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo, oni bai y caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40;
b
os caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r dyddiad ffeilio, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).
5
Y cyfnodau cyfrifyddu y mae’n rhaid i berson ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â hwy—
a
yw’r cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7), oni bai y caiff y cyfnodau hynny eu hamrywio o dan adran 40;
b
os caiff y cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7) eu hamrywio o dan adran 40, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r cyfnodau cyfrifyddu, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).
6
Yn achos person sy’n gofrestredig—
a
y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy (neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig), a
ii
sy’n dod i ben â diwrnod a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir gan ACC i’r person;
b
y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob cyfnod dilynol o 3 mis y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo.
7
Yn achos person nad yw’n gofrestredig—
a
y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy, a
ii
sy’n dod i ben â diwedd y chwarter calendr y mae’r person yn dechrau gwneud hynny (neu, os yw’n gynharach, y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig);
b
y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob chwarter calendr dilynol y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo (ond os daw’r person yn gofrestredig cyn diwedd chwarter calendr, daw’r cyfnod cyfrifyddu sy’n ymwneud â’r chwarter hwnnw i ben â’r diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig).
8
Yn yr adran hon, ystyr “chwarter calendr” yw cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr.