xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1LL+CTaliadau a Ganiateir

RhentLL+C

1(1)Mae taliad rhent o dan gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.

(2)Ond, yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, os yw swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol (“C1”) yn fwy na swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol arall (“C2”), mae’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 yn daliad gwaharddedig.

(3)Pan fo mwy nag un cyfnod perthnasol heblaw C1, C2 yw pa un bynnag o’r cyfnodau perthnasol eraill hynny y mae’r swm isaf o rent yn daladwy mewn cysylltiad ag ef.

(4)Mewn achos pan fo hyd un cyfnod perthnasol (C1) yn wahanol i hyd un arall (C2), er mwyn pennu—

(a)pa un a yw taliad gwaharddedig wedi ei wneud yn rhinwedd is-baragraff (2), a

(b)os felly, swm y taliad gwaharddedig,

mae’r camau a ganlyn i’w cymryd.

(5)Pan fo—

(a)rhent yn daladwy yn fisol mewn cysylltiad ag C1 ac C2, neu pan fo C1 ac C2 ill dau yn gyfnodau a gyfrifir drwy gyfeirio at yr un nifer o fisoedd calendr, a

(b)swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 ac C2 yr un fath,

mae C1 ac C2 i’w trin at ddibenion Cam 2 yn is-baragraff (4) fel pe bai ganddynt yr un CDdB.

(6)Rhaid diystyru unrhyw wahaniaeth rhwng y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 a chyfnod perthnasol arall i’r graddau y mae’n deillio o amrywiad a ganiateir i’r rhent.

(7)Yn is-baragraff (6), ystyr “amrywiad a ganiateir”, mewn perthynas â rhent sy’n daladwy o dan gontract meddiannaeth safonol, yw amrywiad a wneir—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract;

(b)yn unol â theler yn y contract sy’n darparu ar gyfer amrywio’r rhent o dan y contract;

(c)gan ddeddfiad neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(8)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) a gynhwysir yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(i)Deddf Seneddol,

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth safonol, yw unrhyw gyfnod y mae rhent i’w dalu mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Blaendal sicrwyddLL+C

2(1)Mae taliad blaendal sicrwydd yn daliad a ganiateir.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—

(a)cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu

(b)rhyddhau unrhyw atebolrwydd,

sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.

(3)Ond os yw swm y blaendal sicrwydd yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Blaendal cadwLL+C

3Mae taliad blaendal cadw yn daliad a ganiateir.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

4Blaendal cadw yw swm—

(a)a delir i landlord, neu i asiant gosod eiddo, cyn rhoi contract meddiannaeth safonol;

(b)a delir at ddiben cadw’r hawl i gael y cynnig cyntaf mewn perthynas â rhoi’r contract, yn ddarostyngedig i gynnal gwiriadau addasrwydd o ran darpar ddeiliad y contract, a chytundeb rhwng y partïon i ymrwymo i’r contract;

(c)nad yw’n fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

5Pan fo swm sy’n ofynnol gan honni cydymffurfio â’r paragraff hwn yn fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig, ac mae’r gweddill i’w drin yn unol ag Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad yn achos diffygdaliadLL+C

6(1)Mae taliad y mae’n ofynnol ei wneud yn achos diffygdaliad gan ddeiliad y contract, o dan gontract meddiannaeth safonol, yn daliad a ganiateir, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “diffygdaliad” yw—

(a)methiant gan ddeiliad y contract i wneud taliad i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus, neu

(b)toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract.

(3)Yn achos diffygdaliad y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, os yw swm y taliad sy’n ofynnol yn achos y diffygdaliad yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—

(a)methiant gan ddeiliad contract i dalu rhent i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus;

(b)unrhyw ddisgrifiad ychwanegol o ddiffygdaliad a bennir gan reoliadau.

(5)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â’r dreth gyngorLL+C

7(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r dreth gyngor yn daliad a ganiateir os yw deiliad y contract yn atebol am wneud y taliad yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6, 8 neu 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (c. 14).

(2)Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr un ystyr ag a roddir i “billing authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â darparu cyfleustodauLL+C

8(1)Mae taliad ar gyfer darparu cyfleustod, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Mae taliad tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni o dan gynllun y fargen werdd (o fewn yr ystyr a roddir i “green deal plan” gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2011 (p.16)) yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cyfleustod” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)trydan, nwy neu danwydd arall;

(b)dŵr neu garthffosiaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â thrwydded deleduLL+C

9(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig mewn cysylltiad â thrwydded deledu yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol gan y contract i ddeiliad y contract wneud y taliad.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “trwydded deledu” yw trwydded at ddibenion adran 363 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (c. 21).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliad mewn cysylltiad â gwasanaeth cyfathrebuLL+C

10(1)Mae taliad ar gyfer gwasanaeth cyfathrebu, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwasanaeth cyfathrebu” yw gwasanaeth sy’n galluogi unrhyw un neu ragor o’r canlynol i gael ei ddefnyddio neu eu defnyddio—

(a)ffôn ac eithrio ffôn symudol;

(b)y rhyngrwyd;

(c)teledu cebl;

(d)teledu lloeren.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

Taliadau gwasanaeth sy’n daladwy i landlordiaid cymunedol etc.LL+C

[F110A(1)Mae tâl gwasnaeth yn daliad a ganiateir os—

(a)yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)yw’r landlord yn landlord cymunedol.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)contract meddiannaeth safonol o fewn paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016 (llety nad yw’n llety cymdeithasol), neu

(b)contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol o fewn adran 143 o Ddeddf 2016 (contractau sy’n ymwneud â llety â chymorth).

(4)At ddibenion y paragraff hwn—

Diwygiadau Testunol

F1Atod. 1 para. 10A wedi ei fewnosod (ynghyd ag effect in accordance ynghyd ag a. 15(4) of the amending Deddf) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 15(1), 19(1) (ynghyd ag a. 15(5)-(7))

Taliad am gopi pellach o ddatganiad ysgrifenedigLL+C

[F210BMae taliad ffi resymol am ddatganiad ysgrifenedig pellach o gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.]

Newid ystyr “amrywiad a ganiateir” ym mharagraff 1LL+C

11Os yw rheoliadau a wneir o dan adran 7 yn diwygio’r Atodlen hon er mwyn newid ystyr “amrywiad a ganiateir” at ddibenion paragraff 1, cânt hefyd wneud diwygiadau canlyniadol i Bennod 3 o Ran 6 a Phennod 3 o Ran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (amrywio contractau meddiannaeth safonol).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)