Adran 38 – Adroddiad ar estyn yr hawl i bleidleisio a newid cymhwystra i fod yn Aelod o'r Senedd
128.Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad, ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad ar weithredu darpariaethau yn y Ddeddf sydd yn:
estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd i bersonau sy'n 16 neu'n 17 oed;
estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd i bersonau sy'n ddinasyddion tramor cymhwysol;
caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol fod yn Aelodau o'r Senedd,
anghymhwyso aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag bod yn Aelodau o'r Senedd.
129.Rhaid llunio a chyhoeddi'r adroddiad o fewn chwe mis i ddiwedd y cyfnod adrodd.
130.Y cyfnod adrodd yw'r cyfnod pum mlynedd o ddiwrnod etholiad cyffredinol nesaf y Senedd a gynhelir ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny. Ar hyn o bryd, trefnir etholiad cyffredinol nesaf y Senedd ar gyfer mis Mai 2021.